Y Bala – Y Seintiau Newydd

Bydd y Seintiau Newydd yn gobeithio agosáu at deitl Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn y Bala o flaen camerâu Sgorio ar Faes Tegid brynhawn Sul.

Y Seintiau sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd ond gyda dim ond dau bwynt o fantais ar Fangor yn yr ail safle mae’n holl bwysig bod tîm Craig Harrison yn cynnal y pwysau ar y Dinasyddion gyda buddugoliaeth yn y Bala.

Mae’r ddau dîm ar y brig yn chwarae’i gilydd ar ddiwrnod olaf y tymor yr wythnos nesaf felly os gaiff y ddau dîm dri phwynt yr wythnos hon bydd y cwbl yn dibynnu ar y gêm olaf, yn union fel y tymor diwethaf.

Ond mae’r Seintiau yn mynd i’r gêm yn dilyn llithriad bach yn erbyn Llanelli’r wythnos diwethaf. Roedd y tîm o Groesoswallt wedi ennill chwech o’r bron yn y gynghrair cyn ymweliad y Cochion i Neuadd y Parc nos Sadwrn ond llwyddodd deg dyn Llanelli i gael gêm gyfartal.

Y canlyniad hwnnw a agorodd gil y drws i Fangor a bydd y Bala yn gobeithio ail adrodd y gamp gyda chanlyniad tebyg yn erbyn y tîm ar y brig yr wythnos hon.

Er na all y Bala eu hunain symud o’r pumed safle yn y ddwy gêm olaf bydd tîm Colin Caton yn gobeithio gorffen y tymor gyda rhediad da cyn y gemau ail gyfle Ewropeaidd.

Ac yn wir, mae canlyniadau’r Bala wedi gwella dros y mis diwethaf. Yn dilyn dechrau siomedig i ail hanner y tymor maent wedi cael dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn eu pum gêm ddiwethaf.

Ac mae’r Bala wedi profi peth llwyddiant yn erbyn y Seintiau’r tymor hwn hefyd. Er nad ydynt wedi eu curo maent wedi cael dwy gêm gyfartal yn eu herbyn yn hanner cyntaf y tymor. Wedi dweud hynny, y Seintiau sydd wedi cael y gorau o’r ddau gyfarfyddiad diwethaf gan ennill o 3-2 yn y gynghrair ac o 4-0 yn y gwpan.

Bydd canlyniad tebyg eto ddydd Sul wrth fodd Craig Harrison ac yn rhoi’r Seintiau ar drothwy’r bencampwriaeth.

Mae Sgorio yn dechrau am 14:25 a bydd y gic gyntaf o Faes Tegid am 14:45.

Castell Nedd – Bangor

Bydd Sgorio yn cadw golwg ar y Gnoll brynhawn Sul hefyd ble y bydd Bangor yn teithio i herio Castell Nedd. Mae’r Dinasyddion angen buddugoliaeth i gynnal y pwysau ar y Seintiau ar y brig a chadw’r ras am y teitl yn fyw tan ddiwrnod olaf y tymor.

Mae tîm Nev Powell yn teithio i’r De ar rediad diweddar da, maent wedi cipio saith pwynt allan o naw posibl dros y tair wythnos diwethaf gan sgorio deg gôl yn y broses. Byddai buddugoliaeth arall yn gwneud pethau’n ddiddorol iawn ar Neuadd y Parc ar ddiwrnod olaf y tymor beth bynnag fydd canlyniad y Seintiau ym Maes Tegid ddydd Sul.

Ond mae Castell Nedd eu hunain wedi bod yn chwarae’n dda ers i’r gynghrair rannu’n ddwy ym mis Chwefror. Dim ond un gêm allan o wyth y mae tîm Kristian O’Leary wedi ei cholli yn ail hanner y tymor gan ennill chwech ohonynt.

Ac mae record yr Eryrod yn erbyn Bangor wedi bod yn dda’r tymor hwn hefyd. Hwy sydd wedi ennill dwy o’r tair gêm rhwng y ddau dîm gan gynnwys buddugoliaeth o 2-0 ar y Gnoll ym mis Awst.

Tasg anodd yn wynebu Bangor felly ond siawns y bydd pob cefnogwr niwtral yn gobeithio am dri phwynt i’r Dinasyddion fel bod cyffro Uwch Gynghrair Cymru’n parhau am wythnos arall.