Warren Gatland
Efallai na fydd Warren Gatland yn gallu hyfforddi Cymru ar eu taith i Awstralia, meddai ei wraig  Trudy wrth bapur newydd y Waikato Times.

Mae’n rhaid i hyfforddwr Cymru gael llawdriniaeth i ail-greu ei sawdl dde ar ôl iddo gwympo yn ei gartref gwyliau yn Seland Newydd.

Ar yr 2il o Fehefin mi fydd Cymru yn herio’r Barbariaid yng Nghaerdydd cyn mynd i Awstralia ar gyfer y gemau prawf a gêm ganol wythnos yn erbyn y Brumbies yn Canberra.

Os nad yw Gatland yn gwella erbyn y daith sy’n dechrau ar y 9fed o Fehefin, mi fydd Robert Howley yn camu i’r adwy.

Mae’r cyn-fewnwr eisoes yn ffefryn i gymryd yr awenau pe bai Gatland yn hyfforddi’r Llewod yn 2013.

Er bod Gatland wedi cael codwm cas, fe allai pethau fod wedi bod yn waeth, yn ôl Trudy Gatland.

‘‘Dw I’n meddwl y cawn ni rhywun i wneud y ffenestri yn y dyfodol.  Dylen ni fod wedi gwneud hynny yn y lle cyntaf, ond gallai wedi bod yn waeth,’’ meddai Trudy Gatland.

‘‘Mi fydd ei droed chwith yn gwella’n gyflym oherwydd mai dim ond un torasgwrn sydd ar y sawdl, ond yn ei droed dde mae llawer o esgyrn wedi torri’n deilchion.

‘‘Mae’n gobeithio na fydd yn hir cyn gwella, ond mi fydd yn gorfod gwisgo cast am gyfnod.”