Mae’r angen am greu consensws gwleidyddol yn llesteirio datblygiadau pwysig yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig.
Yr agwedd wleidyddol yng Nghymru yw’r rhwystr mwyaf i greu rhanbarth dinas Caerdydd a’r Cymoedd, medden nhw.
Mae’r adroddiad yn ystyried y posibilrwydd o gydlynu polisïau ar draws awdurdodau de ddwyrain Cymru er mwyn creu rhanbarth newydd, ‘Caerdydd a’r Cymoedd’.
Mae casgliad newydd o ysgrifau gan y Sefydliad Materion Cymreig yn dweud mai adeiladu’r ewyllys gwleidyddol i greu rhanbarth dinas ar gyfer de-ddwyrain Cymru yw’r broblem fwyaf ar hyn o bryd.
Yn ôl yr adroddiad, Forging a new connection: Cardiff and the Valleys, mae gormod o bwyslais yn cael ei roi ar gyrraedd ateb bydd yn plesio pawb, yn hytrach na gwireddu’r cynllun i’w lawn botensial.
Yn ôl Swyddog Ymchwil y Sefydliad Materion Cymreig, Dr Stevie Upton, byddai creu rhanbarth dinas Caerdydd a’r Cymoedd yn helpu rhannu’r cyfoeth yn fwy teg ar draws y de ddwyrain.
“Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd i ddod dros yr anghydraddoldeb economaidd, y llywodraethant rhanedig, a’r gwrthwynebiad diwylliannol i greu rhanbarth dinas o gwmpas prifddinas Cymru,” meddai.
Ond yn ôl adroddiad un ymgynghorwr allanol ar gyfer Cyngor Caerdydd, mae tuedd cryf i fynd am yr opsiwn sy’n plesio’r nifer fwyaf o bobol wrth o fewn Grŵp Cynllunio Strategol De Ddwyrain Cymru – y corff sy’n gyfrifol am y cynllun o greu polisïau cydlynol ar draws y de ddwyrain.
Roedd yr adroddiad yn disgrifio diwylliant lle’r oedd “consensws yn bopeth, ac mai’r opsiwn oedd yn plesio pawb oedd yr unig ffordd o’i sicrhau”.
‘Gormod o bwyslais ar gyd-dynnu yn lle gweithredu’
Yn ôl yr athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd, mae unrhyw welliant i lywodraethant y de ddwyrain yn cael ei rwystro gan y ffaith fod pobol yn rhoi mwy o bwyslais ar gyd-dynnu na chael canlyniadau.
Roedd hynny’n broblem oedd yn treiddio trwy galon gwleidyddiaeth Cymru, ac o’r herwydd doedd y wlad erioed wedi mynd i’r afael â her adeiladol.
Yn ôl Swyddog Ymchwil y Sefydliad Materion Cymreig, Dr Stevie Upton, mae tystiolaeth o hyn i’w weld yn y ffaith fod tri rhanbarth llawer mwy wedi llwyddo i gydlynu polisïau’n effeithlon, tra bod Caerdydd a’r Cymoedd yn dal i fethu.
Mae ardal Stuttgart wedi creu Cynulliad Rhanbarthol o 90 aelod, sy’n cynrychioli 2.6 miliwn o drigolion mewn 179 o fwrdeistrefi.
Yn rhanbarth dinas Vancouver, mae cyflenwi gwasanaethau a chynllunio rhanbarthol yn cael ei wneud ar ran 2.1 miliwn o drigolion gan Metro Vancouver, sydd â 37 aelod ar Fwrdd sydd wedi ei benodi o blith cynrychiolwyr 22 bwrdeistref.
“Y brif wers o’r profiadau hyn yw y gall cydweithio weithio. Mae creu consensws yn bosib, ond dyw hi ddim yn rhwydd,” meddai Dr Stevie Upton.
“Pan ddaeth cyn-Faer Vancouver, Gordon Campbell, i siarad â ni am y cyfleoedd i gydlynu rhwng awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru, roedd yr anghrediniaeth ymhlith y dorf.
“Roedd yn arwydd efallai o fethiannau’r gorffennol, ond rhaid iddo beidio effeithio ar agweddau’r dyfodol,” meddai.