Mae nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint yn dal i godi ymhlith menywod ym Mhrydain, yn ôl ffigyrau newydd Canser Research UK.

Dywedodd yr elusen bod mwy na 18,000 o achosion wedi dod i’r amlwg yn 2009.

Mae nifer yr achosion wedi codi i 39.3 ym mhob 100,000 o fenywod yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn. Mae hyn o’i gymharu â 22.2 ym mhob 100,000 yn 1975, pan oedd llai na 8,000 o achosion.

Mae’r ffigyrau yn adlewyrchu nifer y menywod oedd yn ysmygu dwy neu dair degawd yn ôl, medd yr ymchwil, gan fod dros 80% o achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael eu hachosi gan dobaco.

Roedd 45% o fenywod yn ysmygu yn y 1960au, ond mae’r ffigwr hwnnw wedi hanneru erbyn hyn.

Mae’r ffigyrau newydd hefyd yn dangos fod y cyfanswm o marwolaethau o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint tua 35,000 y flwyddyn, gyda 19,410 o ddynion, a 15,449 o fenywod yn marw o’r clefyd yn 2010.

Yn ôl Jean King, cyfarwyddwr rheoli tobaco yn Canser Research UK, mae’r ffigyrau diweddaraf yn “tanlinellu’r effaith marwol sydd gan dobaco. Mae’r cynnydd yn achosion canser yr ysgyfaint mewn menywod yn adlewyrchu’r nifer uchel o ysmygwyr oedd sawl degawd yn ôl, pan oedd agweddau yn wahanol,” meddai.

‘Gwerthu sigarets mewn pecynnau plaen’

“Dyw hysbysebion tobaco ddim wedi ymddangos ar deledu’r DU ers 1965, ond dydi hynny ddim wedi atal marchnata sigarets,” meddai Jean King.

“Mae ffyrdd newydd, mwy soffistigedig o farchnata bellach yn denu cannoedd o filoedd i ddechrau ar gaethiwed fydd yn lladd hanner yr ysmygwyr tymor hir.

“Mae’n holl bwysig bod y Deyrnas Unedig yn cau un o’r bylchau diwethaf sy’n dal i bortreadu ysmygu fel rhywbeth cyfareddol a normal, yn hytrach na’r cynnyrch marwol ydyw mewn gwirionedd: mae’n hanfodol ein bod ni’n dod i ben â’r cynnwrf ar y pecynnu, a rhoi sigarets mewn pecynnau plaen gyda rhybudd iechyd mawr,” meddai.

“Does neb eisiau gweld plant yn dechrau ysmygu, a thra na fydd pecynnau plaen yn atal pawb rhag ysmygu, bydd yn rhoi llai o reswm i filiynau o blant i ddechrau.”