Mae David Cameron wedi cyrraedd Burma heddiw, ar yr ymweliad cyntaf i’r cyn-drefedigaeth gan Brif Weinidog o Brydain.
Mae’n debyg y bydd David Cameron yn awgrymu y gallai Prydain leddfu ei sancsiynas ar y wlad os yw’r llywodreath yn parhau i arddel democratiaeth.
Daw ei ymweliad wedi i gyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Aung San Suu Kyi, ennill sedd yn senedd y wlad mewn isetholiad ar 1 Ebrill.
Mae disgwyl i David Cameron gwrdd â hi a hefyd yr Arlywydd Thein Sein.
Fe fydd yn rhoi pwysau ar yr arlywydd i ddod a’r brwydro yn erbyn rhai o leiafrifoedd ethnig y wlad, gan gynnwys y Kachins, i ben a chaniatáu iddyn nhw gymryd rhan yn y broses wleidyddol.
Penderfynodd Thein Sein ddechrau trafodaethau â Aung San Suu Kyi, yn ogystal â rhyddhau dros 200 o garcharorion gwleidyddol, ar ôl dod i rym y llynedd.
Daw ymweliad David Cameron ar ôl i Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, alw â Burma ym mis Rhagfyr.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd yr Unol Daleithiau eu bod nhw’n bwriadu llacio sancsiynau ar y wlad.
Diolchodd yr Arlywydd Barack Obama i’r llywodraeth yno am annog “ychydig o gynnydd ar ôl blynyddoedd o dywyllwch”.