Warren Gatland
Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, mewn plaster y bore ’ma wedi iddo ddisgyn tra yn ei gartref yn Seland Newydd.

Roedd hyfforddwr y tîm rygbi cenedlaethol yn golchi ffenestri ar ddydd Llun y Pasg pan ddisgynnodd dri metr o ben ysgol a thorri esgyrn yn ei sodlau wrth lanio ar lawr concrit.

Mae’r anafiadau yn golygu na fydd yn dychwelyd i Gymru mor fuan ag yr oedd yn disgwyl, nac yn ymgymryd â chyfrifoldebau hyfforddiant llawn am y tro.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau heddiw y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei reoli gan is-hyfforddwyr Warren Gatland nes y bydd wedi gwella’n llawn.

Rob Howley

Mae’r Undeb hefyd yn dweud nad oes disgwyl i’r anaf gael effaith mawr ar y paratoadau ar gyfer gemau rygbi Cymru ym mis Mehefin eleni, ac fe fydd Warren Gatland yn derbyn gwybodaeth gyson gan Rob Howley, Robin McBryde, Shaun Edwards a Neil Jenkins wrth iddyn nhw gadw llygad ar y chwaraewyr dros yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, yr hyfforddwr cymorthol, Rob Howley, fydd yn rheoli’r tîm hyfforddi o ddydd i ddydd, ac yn brif ddolen gyswllt rhwng staff Cymru a’r Prif Hyfforddwr.

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, wedi rhoi sêl ei fendith i’r cynlluniau i lenwi’r bwlch yn absenoldeb Warren Gatland, ac er nad yw’n rhagweld y bydd angen penodi hyfforddwr dros dro ar hyn o bryd, mae e a Warren Gatland wedi cytuno i argymell Rob Howley ar gyfer y swydd os bydd angen.

‘Damwain anffodus’

Er bod disgwyl i sawl wythnos fynd cyn y bydd Warren Gatland yn holliach eto, mae disgwyl iddo ddychwelyd i hyfforddi cyn hynny.

Dywedodd Roger Lewis ei fod yn “dymuno’r gorau” i Warren Gatland wrth iddo wella o’i anafiadau yn sgil y “ddamwain anffodus iawn”.

“Dwi wedi siarad â Warren sawl tro ers ei gwymp, ac wedi dweud wrtho mai ef fydd yn arwain y daith i Awstralia oni bai bod rhywbeth annisgwyl yn digwydd yn yr amserlen rydyn ni’n ei ddisgwyl ar gyfer ei wellhad,” meddai.