QPR 3-0 Abertawe
Collodd Abertawe yn yr Uwch Gynghrair am y bedwaredd gêm yn olynol yn erbyn QPR nos Fercher. 3-0 oedd y sgôr terfynol ar Loftus Road diolch i goliau Joey Barton, Jamie Mackie ac Akos Buzsaky.
Daeth Buzsaky’n agos gyda foli gelfydd a bu rhaid i Michel Vorm arbed ymdrechion Mackie ac Adel Taarabt yn yr ugain munud agoriadol ond roedd hi’n ymddangos fod yr hanner cyntaf yn mynd i orffen yn ddi sgôr. Hynny yw, tan i Barton rwydo yn yr amser a ganiateir am anafiadau.
Fe wnaeth Barton yn dda i orffen o bymtheg llath ond bydd Angel Rangel braidd yn siomedig na lwyddodd i benio cic rydd Taarabt ym mhellach na thraed y chwaraewr canol cae ar ochr y cwrt cosbi.
Roedd hi’n ddwy ddeg munud wedi’r egwyl pan sgoriodd Mackie yr ail i roi mynydd i’w ddringo i dîm Brendan Rodgers. Derbyniodd yr Albanwr y bêl gan Anton Ferdinand ar ochr y cwrt cosbi a gwyrodd ei ergyd oddi ar Rangel a heibio i Vorm.
Methodd yr Elyrch a rheoli’r meddiant yn eu dull nodweddiadol ac roedd y tri phwynt yn sâff i dîm Mark Hughes pan sgoriodd Buzsaky drydedd QPR wedi 67 munud.
Ac roedd hon yn dipyn o gôl, daeth Taarabt o hyd iddo 25 llath allan a saethodd Buzsaky gan guro Vorm yn isel i’w dde.
Cafodd Barton gyfle i sgorio’i ail ef a phedwaredd ei dîm yn fuan wedyn ond roedd y tair gôl yn hen ddigon i’r tîm o Lundain i gipio’r tri phwynt.
Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y pedwerydd safle ar ddeg ond os na ddaw’r rhediad gwael hwn i ben yn fuan efallai y bydd rhaid iddynt ddechrau edrych dros eu hysgwyddau ar dimau fel QPR.