Ched Evans a Clayton McDonald
Clywodd llys  yng Nghaernarfon heddiw bod dau bêl-droediwr wedi treisio merch 19 oed mewn gwesty tra roedd eu ffrindiau’n gwylio ac yn ffilmio’r ymosodiad.

Mae  Ched Evans, 23, sy’n enedigol o Lanelwy, ac yn ymosodwr Cymru a Sheffield United, a Clayton McDonald, 23,  sy’n chwarae i Port Vale,  yn gwadu’r cyhuddiad.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng ngwesty’r Premier Inn ger Y Rhyl fis Mai’r llynedd.

Dywedodd John Philpotts, ar ran yr erlyniad, wrth Lys y Goron Caernarfon bod Ched Evans a Clayton McDonald wedi cyfaddef iddyn nhw gael rhyw gyda’r ddynes. Ond dywedodd bod y ddynes, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn rhy feddw i gydsynio i gael rhyw gyda nhw.

Tra roedd yr ymosodiad yn digwydd, meddai John Philpotts, roedd Jack Higgins, cyfaill i’r ddau, a Ryan Roberts, brawd Evans, yn gwylio drwy’r ffenestr.

Roedd recordiad fideo ar ffôn Jack Higgins yn dangos ei fod wedi bod yn ffilmio neu’n ceisio ffilmio’r digwyddiad.

‘Targed addas’

Clywodd y llys bod Evans a McDonald wedi treulio’r noson ar Fai 29 yn cymdeithasu gyda ffrindiau yn Y Rhyl. Yn ystod oriau mân Mai 30 roedd McDonald wedi mynd mewn i dacsi gyda’r ddynes.

Aeth â hi i’r Premier Inn a ffonio rhywun i ddweud fod “ganddo ferch”.

Roedd y ferch, oedd yn 19 ar y pryd, wedi bod yn yfed gwin, fodca a sambuca yn ystod y nos, a dywedodd y derbynnydd yn y gwesty bod y ddynes yn “feddw iawn” ac wedi bod yn baglu.

Yn fuan wedyn daeth Evans i’r gwesty a gofyn am allweddi i ystafell yno.

Roedd dau ddyn, Jack Higgins a Ryan Roberts yn ôl yr erlyniad, yn aros tu allan.

Dywedodd  John Philpotts bod Ched Evans wedi llogi’r ystafell gyda’r “bwriad o ddod o hyd i ferch neu ferched a fyddai’n darged addas” iddo fe a McDonald.

Dywedodd y derbynnydd ei fod wedi gweld dau ddyn, oedd yn aros tu allan, yn gwylio’r hyn oedd yn digwydd yn yr ystafell drwy’r ffenest.

Yn ddiweddarach roedd Evans a McDonald wedi cyfaddef wrth yr heddlu eu bod nhw wedi cael rhyw “ar wahân” gyda’r ferch yn yr ystafell.

Dywed yr erlyniad nad oedd y ddynes wedi cydsynio i gael rhyw gyda nhw ac nad oedd hi mewn cyflwr i wneud hynny.

Graddedigion academi

Mae Evans yn un o raddedigion academi ieuenctid Manchester City a sgoriodd 10 gôl mewn 28 ymddangosiad tra ar fenthyg i Norwich City yn 2007.

Yn 2008 fe sgoriodd yn ei gêm gyntaf i Gymru cyn ymuno â Sheffield United mewn cytundeb gwerth £3 miliwn.

Mae McDonald, sy’n enedigol o Lerpwl, hefyd wedi bod yn rhan o gynllun ieuenctid Manchester City, ac wedi chwarae i Macclesfield Town, Chesterfield a Walsall. Fe ymunodd yr amddiffynnwr â Port Vale ar ddiwedd y tymor diwethaf.