Mae maswr Cymru, Stephen Jones wedi cyhoeddi y bydd yn gadael rhanbarth y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Bydd y chwaraewr 34 oed yn ymuno â chlwb y Wasps yn Llundain.

Yn ei 15 mlynedd gyda’r Scarlets, mae Stephen Jones wedi chwarae 313 o weithiau hyd yn hyn, gan sgorio 2850 o bwyntiau, sy’n record i’r rhanbarth.

Mae Stephen Jones wedi bod yn gysylltiedig â rhai o lwyddiannau mwyaf y Scarlets dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi sefyll gyda’r tîm drwy rai o newidiadau mwyaf y gêm yn rhanbarthol.

Ond mae’n dweud ei bod hi nawr yn bryd symud ymlaen at rywbeth newydd.

Mae Stephen Jones eisoes wedi treulio dwy flynedd yn Ffrainc yn ystod ei yrfa, ac wrth gyhoeddi ei benderfyniad i symud i Loegr ar gyfer tymor 2012/13, dywedodd ei fod eisiau’r cyfle i chwarae yn Lloegr yn ystod ei yrfa.

‘Anrhydedd’

“Dwi’n meddwl mai dyma’r amser iawn i fi symud yn fy ngyrfa rygbi – mae’r Scarlets yn dangos gymaint o addewid ac mae ganddyn nhw ddigon i adeiladu arno ar gyfer y dyfodol gyda grŵp talentog iawn o chwaraewyr ar y ffordd, a’r rheiny’n mynd o nerth i nerth erbyn hyn.

“Mae hi wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan o’r clwb gwych hwn am gymaint o flynyddoedd,” meddai.

“Dwi’n gobeithio fy mod i’n gallu pasio peth o fy hyder i ymlaen er lles ein dyfodol fel rhanbarth.

“Mae bod yn Scarlet wedi bod yn rhan enfawr o ’mywyd i – ers dechrau pan o’n i’n 18, a nawr gadael yn 34. Ac ar wahan i gwpwl o flynyddoedd yn Ffrainc, dyma lle’r ydw i wedi tyfu fel chwaraewr rygbi,” meddai.

“Dwi wedi bod wrth fy modd yn cael bod yn rhan o dîm rygbi’r Scarlets trwy gydol yr amser, ac mae hi wedi bod yn anrhydedd i wisgo’r crys bob un tro.”

‘Uchelgais’

Er yn edrych ymlaen, dywedodd Stephen Jones y byddai yn chwith iddo adael y Scarlets.

“Mae’n mynd i fod yn anodd i fi adael, ond dwi’n gwybod mai dyma’r amser iawn.

“Mae hi wedi bod yn uchelgais gyda hi i chwarae yn Lloegr ar rhyw adeg yn fy ngyrfa, a dwi’n edrych ymlaen i’r her newydd sydd o fyd mlaen i gyda’r Wasps.”

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd ei fod eisiau diolch i’r “chwaraewyr, yr hyfforddwyr a chefnogwyr y Scarlets am y gefnogaeth trwy gydol fy ngyrfa.”

Wrth ymateb i’r newyddion heddiw, dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, ei fod yn deall rhesymau’r maswr dros adael ac yn dymuno’r gorau iddo.

“Mae e’n gadael gyda’n diolch mwyaf, a’r parch mwyaf am bopeth y mae e wedi ei wneud a’i gyflawni yng nghrys y Scarlets. Mae e wedi bod yn rhan enfawr o’n hanes diweddar fel clwb, ac yn rhan allweddol o’r tîm hwn ers peth amser.”

Bydd un Cymro arall hefyd ymhlith y chwaraewyr fydd yn ymuno â thîm newydd Stephen Jones ar gyfer 2012/13. Cyhoeddodd y Wasps heddiw eu bod hefyd wedi arwyddo Will Taylor, y prop ifanc o’r Gweilch, ac fe fydd yntau’n ymuno â nhw ar gyfer eu tymor newydd.