Clwb Rygbi Llanelli
Mae clwb rygbi Llanelli wedi dringo o chweched safle uwchgynghrair y Principality i frig y gynghrair o fewn wythnos.
Neithiwr rhoddodd Llanelli grasfa i Gasnewydd o 55 i 8, a dros y penwythnos fe guron nhw Abertawe o 42 i 22. Wythnos ddiwethaf fe guron nhw Gastell Nedd, ac mae’r tair buddugoliaeth gartref wedi codi Llanelli i frig y gynghrair ble mae brwydr agos rhwng Llanelli, Aberafan, Llanymddyfri a Chastell Nedd er mwyn gorffen yn y safleoedd ail-gyfle.
Yn dynn wrth eu sodlau mae Pontypridd, sy’n wynebu Cross Keys heno ar faes Heol Sardis. Dros y Sul cafodd Cross Keys fuddugoliaeth fawr dros dîm proffesiynol y Cornish Pirates er mwyn cyrraedd rownd derfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon.
Dywedodd rheolwr tîm Pontypridd ei bod hi’n gêm “anferthol” i’r clwb.
“Mae gyda ni gemau mewn llaw dros y clybiau eraill sy’n brwydro gyda ni i geisio ennill y gynghrair ac mae’n amlwg fod rhaid i ni ennill heno” meddai Richard Langmead.