Mae bachwr rhyngwladol Cymru Lloyd Burns wedi gorfod ymddeol o chwarae rygbi.

Cyhoeddodd y Dreigiau heddiw fod Lloyd Burns heb wella o’r anaf ar ei wddf sydd wedi ei gadw oddi ar y cae rygbi ers dechrau Ionawr. Mae profion wedi dangos niwed i wythïen yr aorta ac mae’n bosib bydd angen llawdriniaeth ar ei galon.

Ymddangosodd Lloyd Burns bedair gwaith dros Gymru yn ystod Cwpan y Byd yn Seland Newydd yn yr hydref. Flwyddyn ynghynt roedd yn gweithio fel adeiladwr ac yn chwarae rygbi’n rhan amser i glwb Cross Keys.

‘Sioc fawr’

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau, Robert Beale, fod y newydd am ymddeoliad Lloyd Burns wedi bod yn sioc i bawb.

“Mae popeth mae Lloyd wedi ei gyflawni mewn bywyd wedi dod trwy waith caled ac ymroddiad, ac mae ei ymddeoliad wedi bod yn sioc fawr iddo ef a’i deulu ac yn atsain trwy’r byd rygbi.”

Mynegodd Robert Beale ei ryddhad fod y cyflwr meddygol wedi cael ei adnabod oddi ar y cae chwarae. Dywedodd y cyfarwyddwr rygbi ei fod yn ddiolchgar i griw meddygol y rhanbarth, a staff Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd, am eu gofal tuag at y chwaraewr.