Ched Evans a Clayton McDonald
Fe fydd dau bêl-droediwr yn ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon heddiw ar gyhuddiad o dreisio dynes mewn gwesty.
Mae Ched Evans, 23, ymosodwr Cymru a Sheffield United, a Clayton McDonald, 23, sy’n chwarae i Port Vale, yn gwadu’r cyhuddiad.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng ngwesty’r Premier Inn ger Y Rhyl fis Mai’r llynedd.
Mae Evans, sy’n dod o Lanelwy, yn un o raddedigion academi ieuenctid Manchester City a sgoriodd 10 gôl mewn 28 ymddangosiad tra ar fenthyg i Norwich City yn 2007.
Yn 2008 fe sgoriodd yn ei gêm gyntaf i Gymru cyn ymuno â Sheffield United mewn cytundeb gwerth £3 miliwn.
Mae McDonald, sy’n enedigol o Lerpwl, hefyd wedi bod yn rhan o gynllun ieuenctid Manchester City, ac wedi chwarae i Macclesfield Town, Chesterfield a Walsall. Fe ymunodd yr amddiffynnwr â Port Vale ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Fe fydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon bore ma.