Speight (llun o wefan y clwb)
Fleetwood 1–1 Wrecsam
Llwyddodd Wrecsam i atal Fleetwood rhag cipio Uwch Gynghrair y Blue Square gyda gêm gyfartal yn Stadiwm Highbury nos Fawrth. Mae gobeithion y Dreigiau o gipio’r Gyngres yn fain iawn o hyd ond cawsant y pleser o atal dathliadau eu gelynion pennaf am ychydig ddyddiau o leiaf.
Methodd seren Fleetwood, Jamie Vardy, gyfle cynnar i roi’r tîm cartref ar y blaen pan saethodd dros y trawst o safle addawol.
Daeth Mark Creighton yn agos yn y pen arall ond clirwyd ei beniad oddi ar y llinell wrth i’r hanner cyntaf orffen yn ddi sgôr.
Ond dim ond wyth munud o’r ail gyfnod a gymerodd hi i’r Dreigiau fynd ar y blaen diolch i ugeinfed gôl Jake Speight o’r tymor. Anelodd Danny Wright bas gywir i gyfeiriad yr ymosodwr yn y cwrt cosbi a churodd yntau Scott Davies yn y gôl i Fleetwood o bymtheg llath.
Ond ychydig dros bum munud yn unig a barodd y fantais wrth i Fleetwood unioni toc cyn yr awr. Croesodd Alan Goodall i’r cwrt cosbi a gwyrodd peniad Gareth Seddon oddi ar Creighton ac i gefn y rhwyd.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Wrecsam chwarter awr o’r diwedd pan dderbyniodd Joe Clarke ei ail gerdyn melyn a cherdyn coch.
Cafodd y Dreigiau gyfleoedd i ennill y gêm yn hwyr serch hynny, ond tarodd ergyd Mathias Pogba yn erbyn y trawst wrth iddi orffen yn gyfartal.
Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn ail a Fleetwood ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ac mae’r bwlch rhyngddynt yn parhau yn un ar ddeg pwynt. Ac er i Wrecsam atal Fleetwood am y tro gall y tîm ar y brig sicrhau’r teitl gyda buddugoliaeth yn erbyn Lincon nos Wener.