Yn groes i’r arfer diweddar mae Cymro wedi datgan ei fod yn aros gyda rhanbarth y Gleision.

Cyhoeddodd y Gleision fod y canolwr Gavin Evans wedi arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd o hyd gyda’r rhanbarth. Mae wedi chwarae 41 o weithiau i’r Gleision ers ymuno â nhw o ranbarth y Sgarlets yn 2009, ac mae ganddo un cap dros Gymru.

“Chwaraeais i ddim llawer yn ystod fy nau dymor cyntaf i yma ond y tymor hwn rwy wedi dangos beth rwy’n gallu gwneud,” meddai’r canolwr o Langennech.

“Pan ddechreuais i chwarae fwy o gemau ro’n i’n gwybod ‘mod i am aros” meddai.

Dywedodd hyfforddwr olwyr y Gleision fod gan Gavin Evans ddigon o flynyddoedd o’i flaen o hyd fel chwaraewr.

“Mae ganddo fe’r sgiliau, yr awydd, a’r agwedd cywir,” meddai Gareth Baber.

“Mae gan Gavin y nodweddion i gyd i ddangos i’r chwaraewyr iau sut mae’i gwneud hi”.