Bydd Luke Charteris yn chwarae am y canfed tro dros Ddreigiau Gwent os daw i’r cae yn erbyn Treviso nos Wener.
Mae’r Dreigiau wedi enwi carfan o 26 ar gyfer y gêm gynghrair ar faes Rodney Parade yn erbyn y tîm o’r Eidal. Mae’r Dreigiau yn wythfed yn nhabl y RaboDirect Pro12 ac mae Benetton Treviso yn nawfed.
Mae cefnwr 17 oed wedi ei enwi yn y garfan hefyd. Mae Hallam Amos wedi chwarae dros y Dreigiau unwaith o’r blaen ac yn ddiweddar chwaraeodd dros Gymru dan-18 ym mhencampwriaeth FIRA Ewrop.
Dyma’r garfan yn llawn, y gêm i ddechrau am 7:30 nos Wener:
Martyn Thomas, Will Harries, Hallam Amos, Tonderai Chavhanga, Aled Brew, Adam Hughes, Ashley Smith, Lewis Robling, Jason Tovey, Joe Bedford, Wayne Evans, Tom Brown, Toby Faletau, Dan Lydaite, Lewis Evans, Andrew Coombs, Luke Charteris, Scott Morgan, Rob Sidoli, Dan Way, Nathan Buck, Nathan Williams, Phil Price, Steve Jones, Sam Parry, Hugh Gustafson.