Brendan Rodgers
Mae asgellwr Abertawe’n mynnu nad yw’r Elyrch wedi cael eu heffeithio gan sïon sy’n cysylltu Brendan Rodgers gyda chlybiau eraill.
“Ry’n ni’n cario ‘mlaen â’r job” meddai Scott Sinclair. “Dy’n ni ddim yn gallu fforddio meddwl i ble mae’r rheolwr am fynd yn yr haf, os aiff e.”
Mae Abertawe wedi colli tair gêm o’r bron ac yn gobeithio dod â’r rhediad sâl i ben nos Fercher yn QPR. Mae tîm Brendan Rodgers wedi derbyn llawer o ganmoliaeth eleni ac mae’r rheolwr 39 oed wedi cael ei gysylltu gyda swyddi rheoli Spurs a Chelsea, er ei fod wedi ymestyn ei gytundeb gydag Abertawe am dair blynedd arall.
“Mae e’n rheolwr gwych,” ychwanegodd Scott Sinclair.
“Mae e wedi newid y clwb a gaethon ni ddyrchafiad ar ei dymor cyntaf e yma. Gyda phopeth mae e wedi cyflawni mae’n naturiol bod dyfalu ynghylch ei ddyfodol e, ond mae e’n mwynhau yma,” ychwanegodd Scott Sinclair.
Nid yw Abertawe’n hollol ddiogel eto, ond mae ganddyn nhw 11 pwynt o fantais dros y timau ar y gwaelod gyda chwe gêm i fynd.
Mae QPR ar y llaw arall yn gorfod brwydro am eu heinioes. Mae tîm Mark Hughes yn bedwerydd o’r gwaelod ar wahaniaeth goliau a mae gemau yn erbyn Chelsea, Tottenham a Man City i ddod.