Kidderminster 3–2 Casnewydd

Collodd Casnewydd yn erbyn Kidderminster yn Aggborough brynhawn Llun er iddynt fod ddwy gôl ar y blaen gyda dim ond pum munud o’r 90 ar ôl. Mae dyfodol y tîm o Gymru yn Uwch Gynghrair Blue Square yn y fantol o hyd wedi i’r eilydd, Nick Wright, sgorio tair yn y munudau olaf i gipio’r tri phwynt.

Deg eiliad yn unig a gymerodd hi i dîm Justin Edinburgh fynd ar y blaen diolch i gôl Jake Reid.

Ac roedd hi’n edrych yn addawol ar ôl 37 munud wedi i Sam Foley ddyblu’r fantais. Derbyniodd y bêl gan Lee Minshull ar ochr y cwrt cosbi cyn ergydio’n gywir i’r gornel isaf i guro Tony Breeden yn y gôl i’r tîm cartref.

Roedd hi’n ymddangos fod y ddwy gôl yn mynd i fod yn ddigon i Gasnewydd ond roedd hynny cyn i Elliott Buchanan lorio Lee Vaughan yn y cwrt cosbi wedi 86 munud. Sgoriodd Wright y gic i’w gwneud hi’n 2-1 gydag ychydig funudau i fynd.

Sgoriodd Wright ei ail wedi pedwar munud o amser anafiadau cyn ennill y gêm i’r tîm cartref wrth gwblhau ei hatric ddau funud yn ddiweddarach.

Smonach llwyr gan Gasnewydd yn y deg munud olaf felly ond roedd Justin Edinburgh yn ddigon hapus â’i chwaraewyr cyn hynny. Dywedodd wrth y BBC:

“Dwi’n siomedig dros y chwaraewyr. Fe ddechreuon ni’n dda yn erbyn tîm da iawn gan edrych yn gyfforddus am 87 munud. Yn anffodus fe gafodd y chwaraewyr ifanc eu cosbi am eu camgymeriadau ond fe wnân nhw ddysgu.”

Mae Casnewydd yn disgyn un lle i’r pedwerydd safle ar bymtheg yn y Blue Square o ganlyniad i’r golled a buddugoliaeth Lincon yn erbyn Darlington.