Caerdydd 1–1 Watford

Sgoriodd Nyron Nosworthy gôl hwyr i Watford yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth iddi orffen yn gyfartal yn y Bencampwriaeth brynhawn Llun. Er i Kenny Miller roi’r Adar Gleision ar y blaen eiliadau cyn yr egwyl bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt wedi i Watford unioni wyth munud o’r diwedd.

Daeth cyfle cyntaf y gêm i Ben Turner wedi pum munud ond peniodd yr amddiffynnwr canol gic gornel Peter Wittingham heibio’r postyn.

Ychydig o gyfleoedd a gafodd y ddau dîm wedi hynny a bu rhaid aros tan yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner am y gôl agoriadol. Daeth Kevin McNaughton o hyd i Don Cowie ar yr asgell a chroesodd yntau i Miller yn y canol i’r blaenwr benio heibio i Tomasz Kuszczak.

Bu bron i Miller ddyblu’r fantais bum munud wedi’r egwyl gyda pheniad arall ond er iddo guro Kuszczak eto daeth y postyn i achub yr ymwelwyr.

Dechreuodd Watford ddod i’r gêm wedi hynny a bu rhaid i Miller wneud gwaith da yn ei gwrt cosbi ei hun i glirio ymdrech Troy Deeney oddi ar y llinell.

Ac fe ddaeth gôl haeddianol i’r ymwelwyr wedi 82 munud, Nosworthy yn gwbl rydd yn y cwrt cosbi i anelu cic rydd Sean Murray heibio David Marshall yn y gôl i Gaerdydd.

Bu rhaid i Kuszczak arbed ymdrech yr eilydd, Robert Earnshaw, eiliadau’n ddiweddarch wrth i Gaerdydd chwilio am ail gôl i ennill y gêm ond gorffen yn gyfartal wnaeth hi.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn y chweched safle wrth iddynt aros yn y safleoedd ail gyfle o drwch blewyn gyda dim ond pedair gêm ar ôl.