Brive 12–11 Scarlets
Mae’r Scarlets allan o Ewrop ar ôl colli yn rownd gogynderfynol Cwpan Amlin yn erbyn Brive yn Stade Amédée-Domenech nos Sul.
Er i Liam Williams sgorio unig gais y gêm i’r Cymry roedd y Ffrancwyr yn drech na hwy diolch i gicio cywir Riaan Swanepoel.
Hanner Cyntaf
Brive a gafodd y gorau o’r 40 munud cyntaf ond cyfartal oedd hi ar yr egwyl serch hynny wedi i Riaan Swanepoel a Stephen Jones gyfnewid dwy gic gosb yr un.
Methodd Jones gyda’i gynnig cyntaf wedi pum munud cyn i ganolwr y tîm cartref roi Brive dri phwynt ar y blaen toc wedi chwarter awr.
Methodd y ddau giciwr gyda’u cynigion nesaf ond tri chynnig i Gymro oedd hi wedi 31 munud wrth i Jones unioni’r sgôr.
Roedd y Ffrancwyr yn ôl ar y blaen bum munud yn ddiweddarach ond unionodd Jones am yr eildro yn eiliadau olaf yr hanner gyda chic dda o bellter.
Ail Hanner
Roedd sgrym y Scarlets o dan bwysau ar ddechrau’r ail hanner ac dyfarnwyd dwy gic gosb i’r tîm cartref o ganlyniad. Trosodd Swanepoel dri phwynt wedi 47 munud ac yna eto bedwar munud yn ddiweddarach i roi’r Ffrancwyr ar y blaen o 12-6.
Anfonwyd maswr Brive, Shane Geraghty, i’r gell gallio am dacl beryglus yn fuan wedi hynny a manteisiodd y Scarlets ar yr un dyn o fantais i sgorio cais cyntaf y gêm wedi 58 munud.
Roedd Rhys Priestland wedi dod i’r cae yn lle Jones ac roedd yr eilydd faswr yn cael gwell hwyl ar ryddhau’r olwyr. Ar ôl sawl cymal daeth y bêl i’r cefnwr, Liam Williams, ar yr asgell chwith a gwnaeth yntau yn wych i dirio.
Yn anffodus, methodd Priestland y trosiad anodd o’r ystlys ond dim ond un pwynt oedd ynddi nawr gyda chwarter y gêm ar ôl.
Fe frwydrodd y Scarlets yn ddyfal wedi hynny ond daliodd amddiffyn yn gryf a sicrhaodd Swanepoel y fuddugoliaeth gyda’i bumed gic gosb yn yr eiliadau olaf, 15-11 y sgôr terfynol.
Canolbwyntio ar y Pro12 fydd rhaid i Fois y Sosban yn awr ac aros am flwyddyn arall i goncro Ewrop.