Aaron Ramsey
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud na fyddwn nhw’n gwneud unrhyw beth i atal eu sêr pêl-droed rhag chwarae yn y Gemau Olympaidd.
Yn ôl papur newydd y Dialy Mirror fe fydd Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn rhan o sgwad ‘Tîm GB’ yn yr haf, ar ôl cael caniatâd y gymdeithas bêl-droed.
Mae cefnwr Abertawe, Neil Taylor, hefyd wedi ei ddewis, ac mae rheolwr y tîm yn ystyried cynnwys Ryan Giggs ymysg tri chwaraewr dros 23 oed a fydd yn cael cymryd rhan.
Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas bêl-droed wrth y papur newydd fod cymryd rhan “yn fater i’r chwaraewyr eu hunain”.
“Ni fydd yna unrhyw gosb neu weithredu yn eu herbyn nhw. Ni fydd eu penderfyniad yn effeithio ar eu gallu i chwarae dros Gymru yn y dyfodol.
“Rydyn ni wedi gwneud ein barn ar y mater yn glir a dyw hynny heb newid.
“Ond os yw’r trefnwyr yn gofyn i rywun chwarae ac mae’ derbyn, dyna ei ddewis personol ef.”
Stuart Pearce yw rheolwr tîm dynion y Deyrnas Unedig yn y Gemau Olympaidd.
Fe fydd y sgwad yn cynnwys 18 chwaraewr, a bydd 15 o’r rheini yn gorfod bod dan 23 oed.