Lido Afan 1-6 Y Drenewydd

Sgoriodd Zac Evans deirgwaith wrth i’r Drenewydd gadw’u gobeithion o aros yn Uwch Gynghrair Cymru’n fyw gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Lido Afan yn Stadiwm Marstons nos Wener.

Dim ond tri munud oedd ar y cloc pan rwydodd Evans ei gyntaf ac roedd hi’n ddwy diolch i Nick Rushton wedi 35 munud.

Roedd Lido yn ôl yn y gêm ddau funud cyn yr egwyl wedi i chwaraewr y mis Uwch Gynghrair Cymru, Carl Payne, dynnu un yn ôl i’r tîm cartref.

Ond cwta ddau funud y parodd hi felly cyn i Callum Wright adfer y ddwy gôl o fantais i’r ymwelwyr.

Gwnaeth Andy Jones hi’n bedair ddeg munud wedi’r egwyl cyn i Evans gwblhau ei hatric gyda goliau wedi  62 munud ac 80 munud.

Mae’r Drenewydd yn aros ar waelod yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y fuddugoliaeth ond mae’r tri phwynt yn cau’r bwlch rhyngddynt ac Aberystwyth i ddau bwynt yn unig. Mae Lido Afan ar y llaw arall yn aros yn seithfed.

Bangor 4-2 Y Bala

Cadwodd Bangor eu gobeithion o ennill yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth dros Y Bala yn Nantporth nos Wener.

Yr ymwelwyr a aeth ar y blaen a hynny wedi dim ond chwe munud pan rwydodd Ian Sheridan gôl gyntaf y gêm.

Ond roedd Bangor yn gyfartal bedwar munud yn ddiweddarach diolch i Mark Smyth, a sgoriodd yntau ei ail wedi 26 munud i roi ei dîm ar y blaen.

Roedd hi’n gyfartal unwaith eto ar ôl 67 munud wedi i Mark Connolly rwydo o’r smotyn i’r Bala.

Ond Bangor aeth a hi yn y diwedd wrth i Peter Hoy sgorio wedi 68 munud ac yna Sion Edwards naw munud yn ddiweddarach.

Mae’r fuddugoliaeth ynghyd â chanlyniad y Seintiau yn golygu fod y bwlch rhwng y ddau dîm yn cau i ddau bwynt. Mae’r Bala ar y llaw arall yn aros yn bumed.

Port Talbot 2-1 Aberystwyth

Mae dyfodol Aberystwyth yn yr Uwch Gynghrair yn parhau yn ansicr wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Port Talbot yn Stadiwm GenQuip nos Wener.

Daeth cyfle gorau’r hanner cyntaf i Bort Talbot ond peniodd Dylan Blain dros y trawst o ddwy lath. Yn y pen arall fe wnaeth Kristian Rogers yn dda i atal Sean Thornton.

Fe aeth Port Talbot ar y blaen wedi 54 munud pan beniodd Paul Keddle heibio Steve Cann o gic gornel. Ac roedd hi’n ddwy chwe munud yn ddiweddarach pan anelodd Martin Rose foli gywir i gefn y rhwyd.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i Aber wedi 77 munud pan sgoriodd Thornton o’r smotyn wedi i Andy Parkinson gael ei lorio yn y cwrt cosbi.

Ond methodd Aber a dod o hyd i’r ail gôl a daliodd Port Talbot eu gafael ar y tri phwynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw gobeithion Port Talbot o orffen yn seithfed yn fyw. Dim ond pedwar pwynt sydd yn eu gwahanu a’r safle hwnnw wedi i Lido Afan ac Airbus lithro’r penwythnos hwn. Mae Aberystwyth yn llithro un lle i’r unfed safle ar ddeg, ddau bwynt yn unig o’r gwaelod.

Airbus 0-1 Caerfyrddin

Rhoddwyd hwb i obeithion Caerfyrddin o aros yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth yn erbyn Airbus ar Y Maes Awyr brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Tim Hicks unig gôl y gêm ar yr awr wrth i dîm Mark Aizlewood sicrhau tri phwynt holl bwysig.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerfyrddin dros Aberystwyth i’r degfed safle tra mae Airbus yn aros yn y seithfed safle.

Prestatyn 2-3 Castell Nedd

Mae Prestatyn yn parhau i chwilio am eu pwyntiau cyntaf yn ail hanner y tymor ar ôl colli yn erbyn Castell Nedd ar Erddi Bastion brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Lee Trundle yr Eryrod ar y blaen wedi dim ond tri munud ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ond roedd y tîm cartref yn gyfartal toc cyn yr awr diolch i Jon Fisher-Cooke. Chwe munud yn unig a barodd y fantais wrth i Craig Hughes roi’r ymwelwyr yn ôl ar y blaen wedi 64 munud.

Sicrhaodd Luke Bowen y fuddugoliaeth i Gastell Nedd wedi 79 munud a gôl gysur yn unig oedd cynnig Paul O’Neill saith munud o’r diwedd.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl wrth i Gastell Nedd aros yn drydydd a Phrestatyn yn chweched.

Y Seintiau Newydd 1-1 Llanelli

Agorodd y Seintiau gil y drws i Fangor yn y ras i ennill Uwch Gynghrair Cymru gyda gêm gyfartal yn erbyn Llanelli ar Neuadd y Parc nos Sadwrn o flaen camerâu Sgorio. Er i Nicky Ward eu rhoi ar y blaen yn gynnar fe darodd Rhys Griffiths yn ôl o’r smotyn i ennill pwynt haeddianol i’r Cochion.