Leinster 34 –3 Gleision

Mae’r Gleision allan o Gwpan Heineken ar ôl colli’n drwm yn y rownd gogynderfynol yn erbyn Leinster yn Stadiwm Aviva nos Sadwrn. Sgoriodd y Gwyddelod dri chais cyn hanner amser ac er i’r Cymry wella wedi’r egwyl roedd y tîm cartref yn rhy gryf o lawer.

Hanner Cyntaf

Cafodd y Gleision y dechrau perffaith diolch i gic gosb Lee Halfpenny yn y ddau funud cyntaf yn dilyn trosedd yn ardal y dacl gan flaenwyr Leinster.

Ond gwaethygu a wnaeth pethau wedi hynny ac roedd y sgôr yn gyfartal wedi wyth munud. Y Gleision yn troseddu yn ardal y dacl y tro hwn a Jonathan Sexton yn cicio’r tri phwynt.

Roedd y rhanbarth o Gymru yn ddigon cystadleuol yn y deg munud cyntaf ond y tîm cartref a sgoriodd y cais agoriadol wedi 12 munud. Bylchodd Sexton cyn dadlwytho i’r cefnwr, Rob Kearney a phasiodd yntau maes o law i’r asgellwr, Isa Nacewa, a chroesodd yntau’n rhwydd. 10-3 i’r tîm cartref yn dilyn trosiad Sexton.

Ychwanegodd Sexton gic gosb wedi 23 munud i ymestyn y fantais i ddeg pwynt cyn i Kearney sgorio ail gais y Gwyddelod wedi hanner awr. Chwalwyd sgrym y Gleision wrth i flaenwyr Leinster osod y sylfaen, daeth y mewnwr, Eoin Reddan, yn agos cyn i Kearney orffen y gwaith. Llwyddodd Sexton gyda’r trosiad unwaith eto i ymestyn y fantais i 17 pwynt.

Ac roedd gwaeth i ddod wrth i Brian O’Driscoll sgorio trydydd cais y tîm cartref chwe munud cyn yr egwyl. Ac roedd hwn yn dipyn o gais hefyd; Jamie Heaslip, Sexton, Luke Fitzgerald ac O’Driscoll yn cyfuno’n berffaith mewn symudiad yn syth o’r cae ymarfer.

Llwyddodd Sexton eto gyda’r trosiad wrth i’r hanner cyntaf ddod i ben gyda Leinster ar y blaen o 27-3.

Ail Hanner

Leinster oedd y tîm gorau o hyd yn yr ail hanner ond efallai iddynt orffwys ychydig gan mai dim ond un cais a ychwanegwyd at y sgôr.

Daeth hwnnw wedi 47 munud a Kearney oedd y sgoriwr unwaith eto. Doedd hwn ddim yn gais mor ddeniadol ag ambell un yn yr hanner cyntaf ond roedd yn werth pum pwynt yr un fath, y blaenwyr yn gwneud y gwaith caib a rhaw a’r cefnwr yn croesi’n rhwydd.

Llwyddodd Sexton gyda’i bedwerydd trosiad ond rheiny oedd pwyntiau olaf yr hanner a’r gêm wrth i’r Gleision adfer ychydig o hunan barch yn yr hanner awr olaf.

Yn wir, roedd Martyn Williams yn meddwl ei fod wedi sgorio cais cysur i’r ymwelwyr wedi 65 munud ond cafodd ei wrthod gan y dyfarnwr teledu.

34-3 y sgôr terfynol felly wrth i Leinster gamu’n bwrpasol tuag at Gwpan Heineken arall. Mae tymor y Gleision ar y llaw arall fwy neu lai ar ben ac mae haf hir o ail adeiladu i ddod yn y brifddinas.