Y Seintiau Newydd 1–1 Llanelli

Agorodd y Seintiau gil y drws i Fangor yn y ras i ennill Uwch Gynghrair Cymru gyda gêm gyfartal yn erbyn Llanelli ar Neuadd y Parc nos Sadwrn o flaen camerâu Sgorio. Dim ond dau bwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm ar y brîg yn dilyn bagliad y Seintiau a gall y cwbl gael ei setlo wrth i’r timau herio’i gilydd ar y diwrnod olaf.

Hanner Cyntaf

Y Seintiau a gafodd y gorau o’r deg munud cyntaf er na chrëwyd llawer o gyfleoedd o flaen gôl. Newidiodd hynny wedi 14 munud pan sgoriodd Nicky Ward y gôl agoriadol gyda chyfle clir cyntaf y gêm.

Methodd Lloyd Grist ag ymdopi a phas hir letraws Chris Marriott wrth i’r bêl ddisgyn i Ward ar ochr y cwrt cosbi. Roedd ganddo yntau ddigon i’w wneud o hyd ond curodd Craig Roberts yn y gôl i Lanelli gydag ergyd droed chwith gywir.

Wnaeth Llanelli ddim cynnig llawer yn yr 20 munud cyntaf ond yna daeth cyfle i unioni o unman. Cafodd Craig Williams ei lorio yn y cwrt cosbi gan Simon Spender a phwyntiodd y dyfarnwr, Paul Robertson, at y smotyn.

Cymerodd Rhys Griffiths y gic gan ei tharo’n galed i lawr canol y gôl ac er i Paul Harrison gael llaw arni roedd digon o rym ar yr ergyd i’w chario dros y llinell, y sgôr yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner.

Ychydig o gyfleoedd a greodd y ddau dîm wedi hynny. Dylai Steve Evans fod wedi gwneud yn well gyda pheniad ddeg munud cyn yr egwyl ond arbedodd Roberts yn rhwydd wrth i’r hanner cyntaf orffen yn gyfartal.

Ail Hanner

Roedd Llanelli yn well ar ddechrau’r ail hanner ond prin oedd y cyfleoedd da o hyd.

Cafodd Griffiths hanner cyfle â’i ben toc cyn yr awr ond roedd ei ymdrech yn wan. Creodd Ryan Fraughan gyfle iddo ef ei hun yn y pen arall gyda rhediad da dri munud yn ddiweddarach ond ergydiodd yn syth at Richards.

Tarodd peniad Evans o gic gornel Fraughan y postyn wedi 65 munud wrth i’r Seintiau ail ddechrau rheoli.

A chawsant hwb ddau funud yn ddiweddarach pan yr anfonwyd Ashley Evans oddi ar y cae i Lanelli. Derbyniodd ail gerdyn melyn am drosedd ar Fraughan a chael ei anfon oddi ar y cae braidd yn hallt.

Pwysodd y Seintiau yn ddi drugaredd ond amddiffynnodd Llanelli yn arwrol, yn enwedig felly Grist a beniodd ergyd gywir Chris Seargeant oddi ar y llinell ddeg munud o’r diwedd.

Prin oedd ymweliadau Llanelli i hanner y Seintiau yn y chwarter olaf ond bu bron iddynt sgorio serch hynny. Cafodd Stuart Jones beniad hollol rydd o gic gornel wedi 82 munud ond aeth hi ym mhell dros y trawst.

Ond roedd Jones a’i gyd amddiffynnwyr yn gadarn yn y cwrt cosbi arall a daliodd Llanelli eu gafael ar bwynt haeddianol.

Ymateb

Mae’r Seintiau yn aros ar frig Uwch Gynghrair Cymru er gwaethaf y canlyniad ond dim ond dau bwynt sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Bangor yn yr ail safle. Ac mae hynny’n arwyddocaôl gan fod y ddau dîm yn herio’i gilydd ar ddiwrnod olaf y tymor. Mae Llanelli ar y llaw arall yn aros yn bedwerydd.

Hon oedd ail gêm gyfartal y Cochion oddi cartref mewn wythnos yn dilyn pwynt ym Mangor wythnos yn ôl ac roedd y rheolwr, Andy Legg wrth ei fodd:

“Dwy wythnos yn olynol, gwych. Fe ddangosom ni gymeriad ac roeddem yn llawn haeddu’r pwynt. Gorfod dal arni gyda deg dyn yn y diwedd ond yn haeddu’r pwynt.”