Middlesbrough 0–2 Caerdydd

Rhoddwyd hwb sylweddol i obeithion Caerdydd o ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Middlesbrough yn Stadiwm Riverside brynhawn Sadwrn. Dychwelodd yr Adar Gleision i’r safleoedd ail gyfle diolch i goliau hanner cyntaf Ben Turner a Joe Mason.

Roedd Middlesbrough yn ffodus iawn i gadw deg dyn ar y cae yn dilyn tacl flêr iawn gan eu gôl-geidwad, Jason Steele, ar Kenny Miller yn y munudau agoriadol. Ond anwybyddodd y dyfarnwr, Kevin Friend, y drosedd a Miller oedd yr un fu rhaid gadael y cae gydag anaf.

Ond wnaeth hynny ddim effeithio Caerdydd yn ormodol ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond 11 munud. Peniodd Turner gic gornel Liam Lawrence yn gywir heibio Steele i roi mantais gynnar i’r Cymry.

Roedd hi’n ddwy wedi 19 munud a’r sgoriwr oedd Mason, yr eilydd a ddaeth i’r cae yn lle Miller. Lawrence oedd yn gyfrifol am y gwaith creu unwaith eto a gwnaeth Mason yn dda i anelu’r bêl rhwng coesau Steele ac i gefn y rhywd.

Bu rhaid i David Marshall arbed cynigion Barry Robson a Seb Hines i gynnal y ddwy gôl o fantais ond roedd yr Adar Gleision yn ddigon cyfforddus ar y cyfan wrth iddi aros yn 2-0 ar yr egwyl.

Fe wellodd Middlesbrough ychydig ar ddechrau’r ail hanner a tharodd Adam Hammill y postyn wedi tri munud yn dilyn gwaith da Lukas Jutkiewicz.

Daeth Aron Gunnarsson yn agos i Gaerdydd funud yn ddiweddarach cyn i Scott McDonald fethu o fodfeddi yn y pen arall.

Bu bron i’r eilydd, Rudy Gestede, sgorio gydag ergyd acrobataidd yn y chwarter awr olaf a tharodd Jutkiewicz draws Caerdydd ond aros yn 2-0 wnaeth hi.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd i’r chweched safle. Maent bellach yn ôl yn y safleoedd ail gyfle gyda dim ond pum gêm ar ôl