Eurocopter EC135
Mae Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop wedi galw am wiriadau diogelwch ar rai ambiwlansys awyr ar ôl i nam gael ei ddarganfod ar yr hofrenyddion a allai achosi iddynt chwalu.

Daethpwyd o hyd i grac ar foth rotor hofrennydd Eurocopter EC135.

Mae tua 1,000 o’r hofrenyddion yn cael eu defnyddio ledled y byd, gan gynnwys ambiwlansys awyr yng Nghymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi bod yn defnyddio hofrenydd  EC135 ers mis Ebrill 2009.

Dywedodd yr asiantaeth Ewropeaidd y dylid gwirio’r hofrennydd cyn hedfan nes bod yr ymchwiliad i beth achosodd y nam yn dod i ben.

“Fe allai’r nam, os nad yw’n cael ei weld a’i gywiro, arwain at grac hwy,” meddai’r asiantaeth. “Fe allai hynny arwain at fethiant y prif foth rotor, a cholli’r hofrennydd.”