Mae dynes wedi ei hachub o hen dwnnel trên yng Ngheredigion ar ôl cwympo a thorri ei choes.

Galwyd y gwasanaethau brys tua 3.30pm i’r twnnel at dir fferm ym Mangor Teifi, yn Llandysul.

Daethpwyd o hyd i’r ddynes tua 400 metr y tu mewn i’r twnnel. Darparodd dau wasanaeth tân y golau wrth i’r parafeddygon gynnig triniaeth.

Aethpwyd a’r ddynes i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, mewn ambiwlans.