Llongddrylliad Llanddulas (Llun PA)
Mae contractwyr yn agos at orffen y gwaith o bwmpio tanwydd o long a darodd y creigiau o arfordir Llanddulas.

Maen nhw wedi gwagio 20,000 o’r 24,000 litr o olew sydd ar y llong MV Carrier a darodd y creigiau ger Bae Colwyn ddydd Mawrth.

Bu’n rhaid i fadau achub a hofrenyddion achub saith morwr, o Wlad Pwyl, pan darodd y llong y creigiau mewn tywydd garw.

Ddoe cyhoeddodd cwmni Almaeneg Reederei Erwin Strahlmann, y bydd yn rhaid torri’r llong yn ddarnau.

Cwmni PGC Demolition o Heywood yn Swydd Gaerhirfryn sydd wedi ymgymryd â’r gwaith o symud y llong. Maen nhw wedi bod yn gwagio’r tanwydd ohono tra bod y llanw’n isel.

Unwaith y maen nhw wedi gorffen gwagio’r tanwydd i mewn i danceri ar y lan fe fyddwn nhw’n dechrau torri’n llong i mewn i ddarnau llai.

Dechreuodd y gwaith o symud y llong o’r creigiau ddydd Iau.