TomKeys o Lanwuchllyn
Mae ditectifs y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnal ymchwiliad i ymddygiad milwyr a oedd yn ceisio dal yr Iraciaid a laddodd filwr o Gymru.

Mae pedwar o Iraciaid yn honni eu bod wedi cael eu cam-drin gan filwyr Prydain ar ôl digwyddiad pan gafodd yr Is-gorporal Tom Keys o Lanwuchllyn ei ladd.

Roedd yn un o chwe phlismon a gafodd ei ladd gan dyrfa o Iraciaid mewn digwyddiad yn ne’r wlad ym mis Mehefin 2003.

Y mis wedyn, yn ôl pedwar o blismyn Iracaidd, fe gawson nhw eu cam-drin gan filwyr Prydeinig a oedd yn ceisio dal y llofruddion.

Mae’r pedwar yn dweud eu bod wedi cael eu cicio a’u dyrnu, eu taro gyda charnau reiffls a phastynau a bod y milwyr wedi gwneud iddyn nhw orwedd ar lawr cyn cerdded drostyn nhw.

Galw am ymchwiliad llawn

Mae’r honiadau wedi eu gwneud mewn dogfennau sydd wedi eu rhoi i’r Uchel Lys yn rhan o ymdrech i geisio cael ymchwiliad llawn i ymddygiad milwyr Prydeinig yn Irac.

Ond mae’r cyhuddiadau yma’n cael eu hymchwilio ar wahân i honiadau eraill – yn ôl yr awdurdodau Prydeinig, dim ond yn 2009 y cawson nhw eu gwneud.

Mae cyfreithwyr hawliau dynol yn dweud y dylai’r fyddin fod wedi cadw llygad manylach nag arfer ar yr ymchwiliad i’r llofruddiaethau yn Irac, oherwydd natur ymfflamychol y digwyddiad.

Fe ddangosodd cwest yn 2006 bod cyrff y chwech wedi cael eu rhidyllu gan fwledi a’u curo. Mae pob ymgais i ddal y llofruddion wedi methu hyd yn hyn.