Paul Flynn - 'lladdwch y bwystfil'
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw am ladd a chladdu’r corff newydd sy’n penderfynu ar lwfansau ASau.
Yn ôl Paul Flynn, mae delio gyda’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol IPSA wedi bod yn “hunllef sgrechlyd o fiwrocratiaeth annealladwy” ac fe ddylai gael ei ddileu ar unwaith.
Roedd un cais am gostau gan AS Gorllewin Casnewydd ymhlith mwy na 140 oedd wedi eu gwrthod gan yr Awdurdod a’u cyhoeddi mewn adroddiad yr wythnos ddiwetha’.
Roedd hynny, meddai Paul Flynn, oherwydd rheolau cymhleth y corff sydd yn “ofnadwy o aneffeithiol” ac yn fwystfil sy’n dwyn ased fwya’ gwerthfawr yr ASau, sef amser.
Mae yntau’n honni bod yr Awdurdod, sydd hefyd yn delio gyda chyflogau ASau a’u staff, wedi hawlio gormod o arian pensiwn ganddo ac wedi codi am fisoedd o bensiwn ‘intern’ a fu gydag ef am fis.
‘Creu olwyn sgwâr’
Roedd y drefn newydd wedi troi tasg gyflym yn un hir a chymhleth, meddai, ac fe fyddai ASau’n fodlon bod ar eu colled er mwyn cael trefn symlach.
“Fe gafodd IPSA eu dysgu y byddai pob AS yn dwyn ceiniogau ola’ eu neiniau petaen nhw’n cael cyfle. Tasg IPSA oedd drysu pawb, ymddiried yn neb a gwrthod credu popeth.
“Fe benderfynson nhw ail-ddyfeisio olwyn effeithiol. A chreu un sgwâr gyda phigau arni. Cafodd system hawlio syml gyda phum rhan ei rhannu’n gant o benawdau ac is-benawdau.”
Y cefndir
Fe gafodd IPSA ei sefydlu yn sgîl y sgandal tros lwfansau ASau ddwy flynedd yn ôl ond, ers hynny, mae llawer o wleidyddion wedi cwyno am gymhlethdod y system a’r amser y mae’n ei gymryd i hawlio.
Roedd un cais gan Paul Flynn am gostau wedi ei wrthod “oherwydd prinder tystiolaeth” ond ef yw un o’r ASau sy’n hawlio leiaf yng Nghymru.