Barcelona
Mae dyn o dde Cymru wedi ei ryddhau gan yr heddlu yn Barcelona ar ôl cael ei holi mewn cysylltiad â marwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith.

Roedd adroddiadau o Sbaen yn awgrymu bod y ddau ddyn o Gastell-nedd wedi bod yn cwffio mewn ystafell gwesty cyn i un ohonyn nhw farw.

Yn ôl heddlu Catalonia cafodd David Keith Brennan, 49 oed, ei arestio yn Barcelona ddoe yn dilyn ffrae gyda’i frawd-yng-nghyfraith Stephen Storey, 47.

Cafodd David Keith Brennan ei ryddhau heddiw ar ôl i’r heddlu benderfynu nad oedd ei frawd-yng-nghyfraith wedi marw o ganlyniad i’r ymladd yn oriau man y bore dydd Gwener.

Yn ôl adroddiadau roedd y ddau wedi teithio i’r ddinas o Gastell-nedd am Barti Stag.

Awgrymodd papurau newydd Sbaen bod Stephen Storey wedi dioddef trawiad ar y galon.

Barcelona

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Catalonia, y Mossos d’Esquadra, nad oedd Stephen Storey wedi marw o anaf a ddioddefodd o ganlyniad i’r ymladd.

“Ond mae’n bosib [bod yr ymladd] wedi cyfrannu mewn rhyw ffordd,” meddai’r llefarydd.

“Cafodd Mr Brennan ei ryddhau ar ôl gwarantu y byddai’n aros yn Barcelona er mwyn cael ei gwestiynu gan y barnwr sy’n arwain yr ymchwiliad.”