Mae merch feichiog 17 oed wedi marw ar ôl tân mewn fflat yng Nghasnewydd.

Mae’r gwasanaethau brys yn dal i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ond y gred yw bod y tân wedi cychwyn yn ystafell wely’r fflat tua 8am ddydd Sadwrn.

Mae’r fflat ar stad dai Broadmead Park yn Llyswyry, i’r dwyrain o ganol y ddinas.

Defnyddiodd y gwasanaeth tân offer anadlu ac offer delweddu thermol er mwyn dod o hyd i gorff y ferch.

Fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal heddiw.