Mae’r heddlu wedi rhyddhau lluniau o ddau ddyn y maen nhw’n eu drwgdybio o ddwyn arian o dŷ hen ddynes.

Digwyddodd y lladrad honedig ar Stryd Romilly, Treganna, ar ddydd Mercher, 2 Chwefror.

Galwodd y dynion – un yn flêr a’r llall wedi ei wisgo’n smart – yn nhŷ’r hen ddynes tua 1pm.

Honnodd y ddau eu bod nhw’n atgyweirio wal gardd cymydog, cyn gofyn am ganiatâd i gael golwg ar y wal yn ei gardd hi.

Yn fuan ar ôl iddyn nhw adael y tŷ sylweddolodd y ddynes bod llawer iawn o arian wedi diflannu o’i bag.

“Mae’r dioddefwr yn teimlo ei bod hi wedi ei thargedu’n fwriadol ac wedi torri ei chalon,” meddai’r Ditectif Ringyll Tudor Thomas.

“Mae hi hefyd yn teimlo’n rhwystredig am ei bod hi fel arfer yn ofalus iawn ynglŷn â phwy sy’n cael dod i mewn i’r tŷ.

“Roedd y dynion wedi bod yn ofalus iawn ond roedd eu hymddygiad nhw’n gas ac yn llwfr.

“Collodd y ddynes ei gŵr yn ddiweddar ac roedd hi wedi cael llawdriniaeth ar ei chlun. Mae hyn wedi cael effaith mawr ar ei hunan hyder.

“Hoffwn alw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r dynion i gysylltu â’r heddlu yn syth.”

Roedd gan y dyn blêr yr olwg wallt tywyll, ac roedd yn gwisgo jîns a siaced. Roedd yn ei 30au.

Roedd y dyn arall tua 30 oed, ac roedd ganddo wallt brown, a dillad smart tywyll. Roedd yn cario clipfwrdd a ffolder.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 02920 571 542  neu Taclo’r Tacle ar  0800 555 111.