Max Mosley yn 1969 (Llun Raimund Kommer)
Mae cyn-bennaeth rasio ceir Fformiwla Un wedi amddiffyn ei ddiddordeb mewn sadomasocistiaeth gan ddweud bod “pawb yn anifeiliaid yn y pen draw”.
Yn 2008 ennillodd Max Mosley iawndal o £60,000 ar ôl i bapur newydd The News of the World gyhoeddi erthygl a lluniau am ei fasochistiaeth rywiol.
Mae’r dyn 70 oed bellach yn ymgyrchu i alw ar bapurau newydd i roi gwybod i’w dioddefwyr cyn datgelu manylion am eu bywydau preifat.
Fe fydd barnwyr yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn dyfarnu ar y mater ymhellach ymlaen eleni.
“Mae fel bod yn hoyw,” meddai Max Mosley wrth gylchgrawn FT Weekend. “Mae’n chwiw yng nghymeriad rywun.
“Rhaid i bobol fod yn oedolion a dweud, wel rhyw ydi o ac mae rhyw yn beth rhyfedd iawn. Mae hyd yn oed rhyw arferol naill ai’n ddoniol iawn neu’n afiach, neu’r ddau.
“Dyna’r gwirionedd – rydyn ni i gyd yn anifeiliaid yn y pen draw.
“Mae yna amharodrwydd i anafu rhywun arall ymysg bodau dynol gwaraidd. Ond rwyt ti’n ei wneud o am dy fod ti’n rhoi pleser i’r person arall.”
Dywedodd Max Mosley bod y datguddiadau wedi cael effaith mawr ar ei wraig, sy’n amharod i fynd allan.
Ychwanegodd fod y stori wedi cael “effaith drwg iawn” ar ei fab hynaf, Alexander, fu farw o orddos blwyddyn ar ôl i’r stori gael ei gyhoeddi.