Mae’r dadlau yn parhau ynglŷn â phenderfyniad y Gleision i gael gwared ar Gavin Henson yn dilyn ei ymddygiad meddw ar daith awyren o Glasgow i Gaerdydd.

Mae Lyn Jones, a fu’n hyfforddi Henson yn ystod ei gyfnod gyda’r Gweilch, wedi beirniadu penderfyniad tîm rheoli’r Gleision i’w ddiswyddo.

“Mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar bwy oedd yn gofalu am y daith yna i Glasgow, mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar reolwr y tîm. Pam oedd e (Henson) yn yfed yn y bore?” gofynnodd. Fe ddylai rheolwr y tîm fod wedi rhoi stop ar hynny, meddai.

Mae’n cydnabod nad ydy Henson yn ddieuog, ond mae’n dweud ei fod wedi gwneud camgymeriad fel sawl chwaraewr arall. Doedd dim esgus am benderfyniad tîm rheoli’r Gleision, meddai.

Ond mae’r cyn-chwaraewr a chyflwynydd chwaraeon, Jonathan Davies, wedi dweud ei fod yn deall y penderfyniad i gael gwared ar Henson.

“Mae’n drist ond yn ddealladwy,” meddai.

Mae un o gyn-chwaraewyr eraill Cymru, Tom Shanklin, yn holi tybed oedd ffactorau ariannol yn gyfrifol am y penderfyniad.

“Os ydych yn edrych ar rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd, mae timoedd yn chwilio am ffyrdd i arbed arian.

“Os ydy chwaraewyr yn derbyn cyflog mawr, rydych chi am iddyn nhw chwarae’n gyson er mwyn cael gwerth eich arian.

“Ac mae’n debyg na chawn nhw hynny gyda Gavin.”