Bydd rhai o gystadleuwyr rhyngwladol y Gemau Olympaidd yn dangos eu doniau yng Nghaerdydd ychydig wythnosau cyn y brif gystadleuaeth.
Mae Athletau Cymru wedi trefnu eu pencampwriaeth eu hunain ym mhrif ddinas Cymru, llai na phythefnos cyn dechrau’r Gemau Olympaidd yn Llundain.
Mae disgwyl i’r bencampwriaeth, sy’n cael ei chynnal ar 18 Gorffennaf, ddenu cystadleuwyr o Affrica, Oceania a’r Caribi i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Mae Athletau Cymru yn dweud mai hwn fydd y cyfle olaf i weld rai o dalentau mawr y byd cyn iddyn nhw fentro i lwyfan y Gemau Olympaidd.
Mae disgwyl tyrfa o dair mil yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd i weld y cystadlu.
Creu athletwyr y dyfodol
Mae’r bencampwriaeth yn rhan o raglen Athletau Cymru ar gyfer 2012.
Y gobaith fydd elwa ar y cynnwrf o gwmpas y gemau Olympaidd er mwyn rhoi llwyfan i chwaraeon a champau o’r fath ym mywyd bob dydd Cymru.
Yn ôl Athletau Cymru, maen nhw eisiau adeiladu ar sylfaen y Gemau Olympaidd er mwyn creu “dyfodol cynaladwy a bywiog” i athletau yng Nghymru.
“Ein her ni yw gwneud y mwyaf ar y cyfleon unwaith-mewn-oes sy’n cael eu cynnig gan Gemau Olympaidd Llundain 2012,” meddai Athletau Cymru.
Un o’r gobeithion sydd gan y sefydliad yw y bydd yr hwb hwn i chwaraeon yng Nghymru yn helpu’r athletwyr Cymreig y dyfodol.
Maen nhw’n gobeithio y bydd y gemau, a’r buddsoddiad mewn chwaraeon, yn gadael gwaddol fydd yn creu’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr Cymreig erbyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
Yn ôl Athletau Cymru, mae’r rhaglen athletau ar gyfer 2012 yn adlewyrchu “uchelgais Chwaraeon Cymru i gael bob plentyn yn gysylltiedig â chwaraeon am oes.”