Porthladd Caergybi
Mae cwmni Irish Ferries yn disgwyl gweld cynnydd mawr yn nifer y teithwyr o Gymru i Ddulyn yn ystod gwyliau’r Pasg eleni.
Bydd 50% yn fwy o deithwyr ar y llongau o Gaergybi i Ddulyn ac o Benfro i Rosslare’r penwythnos yma nag oedd y llynedd, medden nhw.
Mae cwmnïoedd eraill, gan gynnwys Brittany Ferries, DFDS Seaways a Stena Line, hefyd wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl gweld cynnydd tebyg.
Dywedodd y Gymdeithas Cludo Teithwyr ar Longau eu bod nhw wedi gweld galw mawr am docynnau munud olaf.
“Mantais teithio ar long ydi fod ddigon o le arnyn nhw ac felly mae yna lefydd gwag ar nifer o’r llongau fydd yn teithio’r penwythnos yma,” meddai’r cyfarwyddwr, William Gibbons.
“Mae yna gyfle i bobol brynu tocyn ar y funud olaf.”
Yn y cyfamser mae maes awyr fwyaf Prydain, Heathrow, yn disgwyl ei ddiwrnod prysuraf o’r gwyliau heddiw.
Mae’r maes awyr yn disgwyl 220,000 o deithwyr heddiw, a 3.4 miliwn erbyn dydd Sul, 15 Ebrill.
Mae Dulyn a Milan ymysg y cyrchfannau mwyaf poblogaidd eleni.