Fe fydd gweinidogion yn trafod cynlluniau brys er mwyn ymdopi â streic gyrwyr tanceri tanwydd heddiw wrth i yrwyr barhau i heidio i’r garejys er mwyn prynu petrol a disel.
Bydd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey, yn cynnal y trafodaethau wrth i Lywodraeth San Steffan wynebu beirniadaeth hallt am annog yr argyfwng.
Dyw’r gyrwyr tanceri ddim wedi cyhoeddi pryd y maen nhw’n bwriadu mynd ar streic, ac mae’n rhaid iddyn nhw roi wythnos o rybudd cyn gwneud hynny.
Bydd trafodaethau i ddod o ryw fath o gytundeb rhwng y cyflogwyr a’r undebau yn dechrau dydd Llun, sy’n golygu na fydd streic yn digwydd am o leiaf 11 diwrnod arall.
Ond mae sylwadau gan weinidogion yn annog gyrwyr i lenwi eu ceir rhag ofn wedi arwain at giwiau hyd at hanner milltir o hyd y tu allan i rai modurdai.
Mae rhai gorsafoedd petrol eisoes wedi gorfod cau oherwydd diffyg tanwydd.
Mae Cymdeithas y Gwerthwyr Petrol, sy’n cynrychioli tua 5,500 o garejys, wedi beio’r llywodraeth am y trafferthion.
“Mae gyrwyr tanceri yn parhau i ddosbarthu tanwydd i orsafoedd petrol, ac rydyn ni’n annog pobol i brynu eu petrol a’u disel fel y bydden nhw fel arfer,” meddai llefarydd.
Dywedodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd mai nod eu trafodaethau nhw oedd gweld beth oedd modd ei wneud pe bai’r streic yn mynd rhagddo.
“Fe fydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar beth allai cwmnïau ei wneud i helpu pe bai Unite yn galw streic,” meddai llefarydd.
“Ni fydd yna unrhyw drafodaeth ynglŷn â’r anghydfod ei hun.
“Rhaid i gyflogwyr ac undebau ddatrys hynny eu hunain.”
Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo’r llywodraeth o wneud “traed moch” o’r paratoadau ar gyfer y streic arfaethedig, ac o ymddwyn mewn modd “gwarthus”.
“Mae gan wleidyddion gyfrifoldeb i beidio â chwarae gemau gwleidyddol ac i annog cyflogwyr ac undebau llafur i geisio dod i gytundeb,” meddai canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, ar raglen The World at One Radio 4.
Awgrymodd y byddai’r llywodraeth yn defnyddio’r streic er mwyn rhoi’r bai am wendid yr economi ar yr undebau llafur.