Mae dau wyddonydd o Brifysgol Aberystwyth wedi darganfod tri tornado solar ar wyneb yr haul, a phob un ohonyn nhw sawl gwaith yn fwy na’r ddaear.
Bydd Dr Xing Li a Dr Huw Morgan o’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn Aberystwyth yn cyflwyno ffilm o’u darganfyddiadau yng Cyfarfod Astronomeg Cenedlaethol 2012 ym Manceinion heddiw.
Daeth y ddau o hyd i’r tornados solar trwy ddefnyddio telesgop sy’n casglu delweddau atmosfferig, oedd wedi ei osod ar fwrdd lloeren.
“Dyma’r tro cyntaf, efallai, i dornado solar aruthrol gael ei ffilmio. Mae fy lloeren i wedi dod ar draws tornados solar llai yn y gorffennol, ond ni chafodd yr rheini eu ffilmio,” meddai Dr Xing Li.
Cafodd y lloeren arsylwi ei lansio ym mis Chwefror 2010, ac mae’n mynd o gwmpas y ddaear ar yr un amser â’r ddaear, ar uchder o 36,000 o gilomedrau i fyny yn yr awyr.
Mae’r lloeren yn monitro unrhyw newidiadau solar cyson, er mwyn galluogi gwyddonwyr gael gwell dealltwriaeth o beth sydd wedi achosi’r newidiadau.
Y nod yn y pendraw fydd medru proffwydo tywydd yr haul.
Ar 25 Medi y llynedd, ar un o deithiau’r lloeren o gwmpas y ddaear, daeth y telesgop o hyd i nwyon poeth oedd mor gynnes â 50,000 – 2,000 000 Kelvin, a’r rheiny yn cael eu sugno o wraidd strwythur dwys, cyn troelli i fyny, i mewn i’r atmosffer uchel, a theithio rhyw 200,000 cilomedr ar hyd llwybrau heligol am gyfnod o rhyw dair awr.
Dywed Huw Morgan ei bod hi’n bosib bod y tornado a ddaliwyd ar y ffilm wedi “chwarae rhan wrth ddechrau stormydd solar ar y byd”.
Mae’r nwyon poeth yn y tornados yn teithio ar gyflymderau mor uchel â 300,000 cilomedr yr awr.
Pe bai’r tornados hyn yn bwrw’r ddaear, fe fydden nhw’n achosi cryn ddifrod i’r amgylchedd, gan gynnwys dinistrio’r grid trydan, a hyd yn oed lleorennau.