Fabrice Muamba
Fe allai myfyriwr a garcharwyd am wneud hwyl ar ben salwch y chwaraewr Fabrice Muamba gael ei ryddhau yfory.

Carcharwyd  Liam Stacey, 21, am 56 diwrnod ar ôl ymosodiad hiliol ar y chwaraewr ar wefan Twitter.

Ond fe fydd barnwr yn yr Uchel Lys yn Abertawe yn clywed apêl yn erbyn ei ddedfryd yfory, a allai sicrhau ei fod yn cael ei ryddhau yn syth.

Roedd y myfyriwr bioleg ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi neges ar Twitter yn dweud ‘LOL. F*** Muamba. He’s dead!!!”

Cyhoeddwyd y neges yn fuan ar ôl i chwaraewr canol cae Bolton gwympo i’r llawr yn ystod gêm yng Nghwpan yr FA ar 17 Mawrth.

Beirniadwyd Liam Stacey yn syth gan drydawyr eraill, ond ymatebodd â llifeiriant o negeseuon hiliol.

Roedd cefnogaeth helaeth i ddedfryd Liam Stacey ar Twitter, ond roedd lleiafrif yn dadlau fod y llys wedi gwneud esiampl ohono.

Fe fydd ei dim cyfreithiol yn apelio yn erbyn ei ddedfryd yn Llys y Goron Abertawe, yfory.