Owen Smith
Bydd Aelod Seneddol yn lansio ymgyrch ddydd Sadwrn yma er mwyn cael tîm rygbi proffesiynol yng  “nghadarnleoedd anghofiedig” y gêm.

Ar ôl y gêm gynghrair rhwng Pontypridd a Chastell Nedd ar Heol Sardis bydd yr Aelod Seneddol lleol, Owen Smith, yn annerch y dorf ac yn galw am gynrychiolaeth broffesiynol i’r Cymoedd.

“Mae 500 mil o dai i’r gogledd o’r M4 a does neb ‘da nhw i gefnogi,” meddai Owen Smith.

Comisiynodd Owen Smith arolwg o fil o gefnogwyr rygbi ar draws Cymru sy’n awgrymu bod 83% o ddilynwyr rygbi yng Nghymru ddim yn uniaethu gydag unrhyw ranbarth broffesiynol.

“Mae’r rhanbarthau rygbi’n teimlo’n ffug ac nid yw pobl y Cymoedd yn gallu uniaethu gyda nhw.

“Mae angen i rygbi Cymru ail-gydio eto gyda phobol ar lawr gwlad, a byddwn ni’n cyhoeddi cynllun ddydd Sadwrn i gael rygbi proffesiynol yn ôl i’r Cymoedd”.

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg, 29 Mawrth