Mae Alex Cuthbert wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd y Gleision yn cynnig cytundeb cystadleuol iddo o fewn y pythefnos nesaf, a fydd yn ei alluogi i aros yng Nghymru.

Mae Gethin Jenkins eisioes wedi ymuno â’r cewri Ffrangeg Toulon, ac mae Toulon yn awyddus iawn i ychwanegu Cuthbert at eu carfan.

Bydd Cuthbert yn enw arall i’w ychwanegu at restr chwaraewyr rhyngwladol Cymru sydd ar fin croesi’r sianel i Ffrainc.

Mae ei gytundeb gyda’r Gleision yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ond mae’n mynnu nad yw eisiau mynd i Ffrainc.

‘‘Mae’n dod i ddiwedd y tymor a dw i ddim wedi cael cynnig y cytundeb yr oeddwn i wedi gobeithiol ei gael,’’ meddai Cuthbert.

Mae’r trafodaeth am ddyfodol Cuthbert wedi dal sylw Roger Lewis, sef Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

Mae wedi dweud wrth y Gleision bod rhaid iddynt sicrhau dyfodol i Alex Cuthbert yng Nghymru.

‘‘Mae’n dipyn o anrhydedd i Roger ddweud hynny, ac rwy’n gwybod bod y Gleision am i mi aros yma,’’ ychwanegodd Cuthbert.

“Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod â’r Gleision a chael byw yn Caerdydd yn fawr iawn, ac yn edrych ymlaen at brynu tŷ yma,’’ meddai’r asgellwr.

Dywedodd yr asgellwr ifanc nad yw’n ofni gadael Cymru pe bai’r Gleision yn methu dod o hyd i gytundeb addas.

‘‘Os na fydd popeth yn iawn, bydd angen i mi ystyried yr opsiynau eraill,’’ meddai Cuthbert.

‘‘Fe fydd yn fraint pe byddai rhanbarth arall yn meddwl am cynnig cytundeb i mi.  Ond fe fyddwn i’n teimlo fy mod yn bradychu’r Gleision i ryw raddau am mai nhw oedd wedi rhoi’r cyfle i mi, ac rwy’n ddiolchgar am hynny.

“Y Gleision yw’r dewis cyntaf wrth gwrs, ond os bydd rhaid i mi edrych y tu hwnt iddyn nhw, fe fyddwn i’n ystyried yr opsiynau y tu allan i Gymru,’’ meddai Cuthbert.