Mae’r cwmni sy’n darparu’r cyswllt awyren rhwng Ynys Môn a Chaerdydd wedi cyhoeddi y bydd modd hedfan o Ynys Môn i Ynys Manaw yr haf yma.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol y mae cwmni Manx2 wedi darparu’r gwasanaeth, ar ôl derbyn “adborth da iawn” y llynedd.
Dywedodd cadeirydd y cwmni, Noel Hayes, ei fod “wrth ei fodd” y byddai’r gwasanaeth yn rhedeg eto am dri mis yn ystod yr haf.
Bydd yr awyren yn hedfan dwywaith yr wythnos, bob dydd Llun a Gwener, o 1 Mehefin ymlaen. Bydd taith ychwanegol ar ddydd Mercher o 22 Gorffennaf ymlaen.
Daw’r gwasanaeth i ben ar 5 Medi.
Mae gan y cwmni gytundeb pedair blynedd i hedfan teithwyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.
Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, bod y cyhoeddiad yn newyddion da i dwristiaeth yng ngogledd Cymru.