Barcelona
Mae adroddiadau o Sbaen bod dau ddyn o Gastell-nedd wedi bod yn cwffio mewn ystafell gwesty cyn i un ohonyn nhw farw.

Yn ôl heddlu Catalonia cafodd David Keith Brennan, 49 oed, ei arestio yn Barcelona ddoe yn dilyn ffrae â’i frawd-yng-nghyfraith.

Roedd David Keith Brennan a Stephen Storey wedi bod yn cwffio yng Ngwesty Silken ger stryd Ramblas Barcelona yn oriau man y bore, medden nhw.

Yn ôl adroddiadau roedd y ddau wedi teithio i’r ddinas o Gastell-nedd am Barti Stag.

Cafodd David Keith Brennan ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Stephen Storey, 47 oed, ond dywedodd yr heddlu yn ddiweddarach eu bod nhw’n parhau i ymchwilio a nad oedden nhw’n sicr eto a gafodd Stephen Storey ei lofruddio.

Awgrymodd papurau newydd Sbaen bod Stephen Storey wedi dioddef trawiad ar y galon.

Arestio

“Arestiodd y Mossos d’Esquadra David Keith B, 49,” meddai llefarydd ar ran heddlu Catalonia.

“Am 2am cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiad bod dau berthynas yn brwydro mewn ystafell gwesty.

“O ganlyniad i’r ymladd fe fuodd un o’r dynion, 47 oed, farw. Rydyn ni’n ymchwilio i beth achosodd ei farwolaeth.”

Mae disgwyl i David Keith Brennan ymddangos o flaen llys yfory, pan fydd barnwr yn penderfynu a fydd yn cael ei gyhuddo, meddai’r heddlu.

Dywedodd derbynydd yn y gwesty, Juan Pedro, ei fod dan yr argraff bod un o’r gwesteion wedi marw o ganlyniad i ddamwain.

“Mae’n debyg eu bod nhw’n cwffio,” meddai.

Swyddfa Dramor

“Rydyn ni’n gallu cadarnhau marwolaeth dyn o Brydain yn Barcelona ar 4 Chwefror,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Rydyn ni wedi rhoi gwybod i’r teulu ac yn darparu cymorth consylaidd.”

Dywedodd ei fod hefyd yn gallu cadarnhau bod dyn arall o Brydain wedi ei arestio a’u bod nhw’n darparu cymorth consylaidd iddo ef.

“Mae swyddogion consylaidd Barcelona wedi cysylltu â’r heddlu a’r awdurdodau lleol ynglŷn â’r achos.”