Mae ymateb cymysg wedi bod ar wefan Twitter i ddedfryd o garchar i fyfyriwr am sarhau chwaraewr pêl-droed ar ol iddo gael ei daro’n wael yn ystod gem bêl-droed.

Cafodd Liam Stacey, 21, o Bontypridd ei garcharu am 56 diwrnod heddiw wedi iddo drydar sylwadau sarhaus am chwaraewr Bolton Wanderers, Fabrice Muamba.

Roedd Stacey, sy’n astudio bioleg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi corddi’r dyfroedd gyda’i sylwadau hiliol am y chwaraewr 23 oed, ar ôl i’w galon stopio yn ystod gêm gwpan yn erbyn Tottenham Hotspur ar 17 Mawrth.

Derbyniodd yr heddlu lwyth o gwynion gan ddefnyddwyr Twitter yn sgil sylwadau’r myfyriwr.

Tra’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe yr wythnos ddiwethaf, fe gyfaddefodd y cyhuddiad o ysgogi casineb hiliol.

Wrth ei ddedfrydu heddiw, dywedodd y Barnwr  John Charles heddiw fod sylwadau Liam Stacey wedi achosi dicter ac mai ei unig opsiwn oedd ei anfon i’r carchar.

‘Rhybudd i drydarwyr’

Ar wefan gymdeithasol Twitter, a oedd yn gyfrwng i sylwadau Liam Stacey, mynegodd rhai eu boddhad ac eraill eu siom yn y ddedfryd.

“Blydi gwd job,” meddai’r Arglwydd Alan Sugar. “Bydded hyn yn rhybudd i ffyliaid”.

Mynegodd chwaraewr Wolves, Kevin Doyle, ei foddhad fod Liam Stacey wedi cael ei garcharu, cyn ychwanegu’r cyngor: “Meddyliwch cyn trydar!”

Roedd defnyddwyr eraill wedi mynegi eu syndod at y ddedfryd.

“Mae 56 diwrnod o garchar yn llym. Byddai gwasanaeth cymunedol wedi bod yn ddigonol,” meddai Aminul Hassan.

Dywedodd defnyddiwr arall fod y ddedfryd yn amddifadu hawl pobl i ddweud eu dweud.