Mae Siambr Fasnach Aberystwyth wedi croesawu’r cyhoeddiad bod canol tref Aberystwyth i gael £800,000 er mwyn gweddnewid siopau ac adeiladau.
Cyhoeddodd Gweinidog Adfywio Llywodraeth y Cynulliad, Huw Lewis, fod yr arian yn cael ei roi tuag at gynllun grant Gwella Trefi Cyngor Sir Ceredigion.
“Bydd gwella canol y dref o help i ddenu twristiaid ac i roi hwb i economi Aberystwyth,” medd Huw Lewis.
Mae cyd-Gadeirydd Siambr Fasnach Aberystwyth, Chris Mackenzie-Grieve, wedi dweud wrth Golwg360 fod y cyhoeddiad yn “newydd gwych”.
“Bydd yr arian yn gwella golwg busnesau ac yn rhoi hwb i’r dre gobeithio.
“Mae angen help ar ganol trefi y dyddiau hyn gan ein bod ni’n gorfod cystadlu gyda phrynu dros-y-we a chanolfannau siopau ar gwr y dref. Ond gallwn ni ddim dibynnu ar gymorthdaliadau felly mae angen i ni ddenu cwsmeriaid.”
Tesco’n dod i Aberystwyth
Mae canol tref Aberystwyth wedi dioddef amser caled yn ddiweddar, a dywedodd Chris Mackenzie-Grieve fod bwriad Tesco i ddod i ganol y dre yn beth da.
“Bydd Tesco, ac o bosib Marks & Spencer hefyd, yn dod i safle sy’n agos iawn i ganol y dref, a bydd hynny’n denu cwsmeriaid i fusnesau eraill yn y canol ac yn denu busnesau newydd i’r dre.
“Mae pobl eisiau mynd i’r siopau mawrion, a rhaid i ni bobl fusnes wynebu hynna a manteisio ar y sefyllfa.”
Apwyntiodd Cyngor Sir Ceredigion gwmni Chelverton Deeley Freed i ddatblygu maes parcio Heol y Felin yn Aberystwyth, rhwng pont Trefechan a Choedlan y Parc, a chyhoeddodd y cwmni y bydd Tesco yn rhan o’r cynllun.
Mae rhai wedi gwrthwynebu’r datblygiad, yn arbennig defnyddwyr Canolfan Ddydd a fydd yn gorfod cael ei dymchwel i wneud lle i’r datblygiad.
“Mae hynna’n anffodus,” ychwanegodd Chris Mackenzie-Grieve. “Byddwn ni fel Siambr Fasnach wedi hoffi gweld canolfan debyg yn cael ei chodi yn y dref yn hytrach na throsglwyddo’r defnyddwyr i stafell dan ddaear yn Neuadd y Dref.”