Mae dyn 19 oed, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio babi pedwar mis oed, wedi dweud wrth y rheithgor mae’n rhaid mai mam y plentyn oedd wedi ei ysgwyd i farwolaeth.
Dywedodd Christopher Roberts o Lon Garth, Trefyclo ym Mhowys, wrth Llys y Goron Preston ei fod yn yr ystafell ymolchi pan glywodd sgrech ac yna fe ddarganfyddodd y babi yn anymwybodol yn ei grud.
Mae ei gyn-gariad Karen Irvine, 19, o Lancaster hefyd yn honi nad oedd hi yn yr ystafell pan gafodd y babi ei anafu ac mae’n rhaid mai Roberts oedd yn gyfrifol.
Cafodd Lucas Irvine ei gludo o’i gartref yn Lancaster i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol i’w ymennydd ar 17 Tachwedd, 2010 a bu farw pedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Roedd archwiliad post mortem yn dangos bod Lucas wedi cael anafiadau i’w ben a’i gefn nad oedd yn rhai damweiniol a bod ei ymennydd wedi “chwyddo’n sylweddol” oedd yn awgrymu ei fod wedi cael ei “ysgwyd yn ffyrnig”.
Wrth ei groesholi, fe awgrymodd Dennis Watson QC wrth Roberts bod y ddau ohonyn nhw yn yr ystafell pan gafodd Lucas ei ysgwyd a’u bod nhw wedi ceisio celu’r gwirionedd.
Roedd Roberts yn cydnabod bod Lucas wedi cael ei ysgwyd ond dywedodd mae’n rhaid mai Karen Irvine oedd yn gyfrifol.
Dywedodd Roberts ei fod wedi bod yn yr ystafell ymolchi pan glywodd Lucas yn sgrechian. Fe redodd i mewn i’r ystafell wely a’i ddarganfod yn “llipa ac yn llwyd” yn y gwely.
Clywodd y rheithgor nad dyna’r fersiwn yr oedd Roberts wedi ei roi pan ffoniodd y gwasanaethau brys – fe ddywedodd wrthyn nhw bod Lucas wedi stopio anadlu ar ôl tagu tra’n cael ei fwydo.
Fe gytunodd mai dyna hefyd oedd y stori roddodd ei gariad i’r awdurdodau.
Awgrymodd Dennis Watson QC bod y ddau wedi cynllwynio i dwyllo’r awdurdodau ond gwadu hynny wnaeth Roberts.
Mae Irvine a Roberts yn gwadu llofruddio, dyn-laddiad, neu achosi neu ganiatau marwolaeth plentyn.
Mae’r achos yn parhau.