Lisa Gwilym
Mae ymgyrch wedi’i lansio ar wefannau cymdeithasol i alw ar BBC Radio Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i gael gwared â’r DJ Lisa Gwilym.

Ar ddechrau mis Mawrth fe gyhoeddodd Radio Cymru bod rhaglen Lisa Gwilym i ddod i ben fel rhan o’r newidiadau i amserlen yr orsaf, ac mae tudalen ‘Achub Lisa’ a gafodd ei sefydlu y bore ‘ma ar wefan Facebook wedi denu dros  gant o ddilynwyr.

Mae cefnogwyr Lisa Gwilym hefyd wedi bod yn trydar #achublisa ar wefan Twitter er mwyn denu cefnogaeth i’r DJ a’i rhaglen.

Ar y diwrnod y cadarnhaodd Radio Cymru fod rhaglen Lisa Gwilym i ddod i ben fe ddatgelodd y cylchgrawn roc a phop Y Selar fod y darllenwyr wedi pleidleisio dros Lisa Gwilym fel enillydd gwobr DJ Gorau Cymru.

Mae BBC Radio Cymru heddiw wedi ail-adrodd bwriad yr orsaf i ddod â rhaglen Lisa Gwilym i ben. Mewn datganiad dywedodd Radio Cymru: “Fel rhan o’r newidiadau diweddar i amserlen BBC Radio Cymru a’r buddsoddiad yn y rhaglenni oriau brig, bydd rhaglen ddyddiol Lisa Gwilym yn dod i ben yn yr hydref.”