Gareth Thomas
Mae cyn-gapten rygbi Cymru Gareth Thomas wedi gwadu adroddiadau bod y seren Hollywood Mickey Rourke wedi tynnu nôl o’i rôl yn chwarae’r Cymro mewn ffilm.
Mae’r actor Mickey Rourke, 59, wedi bod yn cydweithio gyda Gareth Thomas er mwyn ei bortreadu mewn ffilm am ei fywyd. Gareth Thomas oedd un o’r sêr chwaraeon cyntaf i gydnabod yn gyhoeddus ei fod yn hoyw.
Gwadodd y cyn-chwaraewr rygbi fod yr actor Tom Hardy wedi derbyn y rôl yn lle Mickey Rourke.
“Mae unrhyw si fod Mickey wedi ildio’r rôl yn gwbl anghywir. Byddwn i wrth fy modd yn cydweithio gyda Tom Hardy, ond dyw e ddim yn mynd i fy chwarae i.
“Cyd-weithiais i gyda Mickey achos does neb cystal â fe i gydio mewn rôl mor heriol, a does dim wedi newid yn hynny o beth. Mae e mor frwd dros y rôl.
“Dwi’n gyn-chwaraewr rygbi, ffilmiau yw byd Mickey a dwi’n ymddiried yn ei weledigaeth e ar gyfer y ffilm”.