Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Cymru yn dweud heddiw fod sicrhau system gyfreithiol sy’n addas i Gymru yn hanfodol wrth symud datganoli yn ei flaen.

Wrth agor ymgynghoriad cyhoeddus ar sefydlu awdurdodaeth arbennig i Gymru heddiw, mae Carwyn Jones yn dweud bod angen edrych ar y sefyllfa cynyddol gyffredin sy’n codi o greu deddfau unigryw i Gymru drwy’r Cynulliad.

“Mae’n hanfodol datblygu system gyfreithiol sy’n addas ar gyfer Cymru iach a ffyniannus,” meddai Carwyn Jones.

Mae’r cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru ar hyn o bryd, ar gyfer Cymru, yn parhau i fod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Dydi hynny ddim yn wir am yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd eisoes ag awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

Y cwestiwn gerbron yn yr ymgynghoriad hwn yw a ddylai Cymru hefyd gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

‘Gwneud i ddatganoli weithio’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, a’r bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad y llynedd yn golygu bod y drafodaeth ar awdurdodaeth gyfreithiol Cymru yn un anochel.

“Mae natur gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig wedi newid yn sylweddol er pan ddatganolwyd pwerau i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym 1999,” meddai Carwyn Jones.

“Mae Cymru yn hen wlad, ond yn ddemocratiaeth ifanc. Fel y Prif Weinidog, fy mhrif flaenoriaeth yw gwneud i ddatganoli weithio fel ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau i bobol Cymru.

“Yn anorfod, bydd datganoli pwerau pellach i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn golygu y bydd cyfreithiau sy’n fwy neilltuol Gymreig yn berthnasol i Gymru yn y dyfodol, sy’n golygu y bydd yna wahaniaethau cynyddol rhwng y cyfreithiau sy’n gymwys yng Nghymru a’r cyfreithiau sy’n gymwys yn Lloegr.

“Rydyn ni’n teimlo ei bod yn hanfodol erbyn hyn cael trafodaeth gyhoeddus ynghylch a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio, ynghyd â goblygiadau posibl hyn ar gyfer Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”

‘Ar wahân ond dal yn Unedig’

Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle, yn dweud y gallai Cymru gael ei system gyfreithiol ei hun, heb i hynny olygu unrhyw fygythiad i’r Deyrnas Unedig.

“Rydym ni’n glir y gall awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân fodoli o fewn Teyrnas Unedig – mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaethau eu hunain sy’n wahanol i’r un ar gyfer Cymru a Lloegr,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae’r holl gyfreithiau sy’n cael eu pasio ar gyfer Cymru, boed hynny gan y Cynulliad, Gweinidogion Cymru, Senedd San Steffan neu Weinidogion Llywodraeth y DU, yn dod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Mae hyn oherwydd bod Cymru a Lloegr yn rhannu’r un awdurdodaeth gyfreithiol, a bod un system o lysoedd, barnwyr a phroffesiynau cyfreithiol wedi datblygu’n nodwedd neilltuol o’r awdurdodaeth honno.”

Ond, meddai, “yn y cyd-destun hwn, dyma’r amser iawn i ystyried a ddylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru neu beidio.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio’n swyddogol y prynhawn yma, gyda chyfle i bobol ar draws Cymru gael rhoi eu barn ar y sefyllfa.

Gillan yn gwrthwynebu

Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn dweud ei bod hi’n methu â gweld y manteision i Gymru o newid awdurdodaeth gyfreithiol.

“Mae hwn yn flaenoriaeth annisgwyl iawn i Lywodraeth Cymru, a dwi ddim yn siŵr iawn pa broblem sydd angen mynd i’r afael ag ef. Sut byddai newid o’r fath yn fanteisiol i bobol neu fusnesau yng Nghymru?

“Mae’r system bresennol dros Gymru a Lloegr wedi gwasanaethu Cymru yn dda ers canrifoedd. Does dim gwerth newid er lles newid yn unig,” meddai.