Cafodd cannoedd o deithiau awyren eu canslo heddiw wrth i weithwyr mewn sawl maes awyr yn yr Almaen ymuno â streic gan weithwyr yn y sector cyhoeddus ynglŷn â’u cyflogau.

Mae undeb ver.di yn galw am gynnydd o 6.5% eleni yng nghyflogau dwy filiwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus. Mae’r undeb wedi gwrthod cynnydd o 3.3% dros ddwy flynedd.

Mae’r gweithwyr – yn cynnwys gyrwyr bysys ac athrawon – yn cynnal streiciau cyn i drafodaethau barhau yfory.

Dywedodd cwmni Lufthansa heddiw eu bod nhw wedi canslo mwy na 400 o deithiau o faes awyr Frankfurt yn unig. Mae’r streic hefyd wedi effeithio meysydd awyr Munich, Dusseldorf, Cologne-Bonn a Stuttgart.